Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno penodi swyddog prosiect Addysg Bellach a Phrentisiaethau i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu adnoddau arbenigol ar gyfer y sector iechyd a gofal a gofal plant.
Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y byddai cylch gorchwyl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn cael ei ymestyn i’r sectorau Addysg Bellach (AB) a Phrentisiaethau.
Yn ystod 2020-21 cynhaliwyd prosiect adnabod anghenion adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i gwblhau’r cwrs Lefel 3 Gofal Plant: Ymarfer a Theori. Adnabuwyd yr angen am adnoddau i gefnogi addysgu unedau dewisol y cwrs hwn sef:
• Cefnogi Plant sy’n Byw gyda Diabetes
• Gofal Ffisegol Plant
• Ymateb i adweithiau anaffylactig
• Cefnogi plant sy'n byw gydag epilepsi
• Gofal lliniarol a gofal diwedd oes i blant a phobl ifanc
• Rhoi gofal i blant sy'n byw gyda chanser
• Rhoi brechiadau trwynol rhag y ffliw
• Rhoi gofal stoma
• Gofalu am glwyfau nad ydynt yn rhai cymhleth
• Cynnal profion sgrinio'r clyw ar gyfer plant oed ysgol
• Cefnogi gofal ymataliaeth mewn plant
• Cefnogi unigolion drwy fwydo gyda thiwb
Bwriedir penodi un swyddog prosiect i greu cysylltiadau a chynllun prosiect adnoddau ar gyfer yr unedau a restrir uchod. Bydd angen i'r swyddog gydweithio gyda staff yn y sector Gofal Plant, yn ogystal â, oherwydd natur yr adnoddau, staff yn y sector Iechyd a Gofal. Bydd y swyddog prosiect yn gweithio’n agos gyda’r swyddog datblygu addysgu bellach a phrentisiaethau (adnoddau a chymwysterau) a hefyd y rheolwr addysg bellach a phrentisiaethau.y
I gael fwy o fanylion cliciwch ar y Fanyleb Swydd isod.