Yr Athro Gwyn Thomas (1936-2016)

Yr Athro Gwyn Thomas (1936-2016)

Brodor o Danygrisiau oedd yr Athro Gwyn Thomas. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Sir Ffestiniog, Prifysgol Cymru, Bangor, a Choleg yr Iesu, Rhydychen.

Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac y mae bellach yn Athro er Anrhydedd yn y Brifysgol.

Cyhoeddodd bron ugain o gyfrolau o farddoniaeth ers y chwedegau yn ogystal â llu o erthyglau a gweithiau ysgolheigaidd, gan gynnwys Y Traddodiad Barddol, sy’n adnabyddus i genedlaethau o fyfyrwyr. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Bywyd Bach, yn 2006. Bu Gwyn Thomas yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a bu’n gyfrifol am symbylu trafodaeth oddi mewn i’r corff hwnnw ynghylch yr angen am Goleg Cymraeg.