Newyddion

9 Ionawr 2015

Cynhadledd yn ystyried Chwyldro ym mywydau oddeutu hanner miliwn o bobl Cymru

9 Ionawr 2015
Yn ystod 2015 bydd hyd at 500,000 o bobl ar draws Cymru yn cael eu heffeithio gan y Credyd Cynhwysol (universal credit) newydd*. Beth fydd effaith y newid mawr yma ar bobl anabl a di-waith; landlordiaid a thenantiaid neu dalu am ofal plant?

Bwriad Cynhadledd bwysig ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Gwener 23 Ionawr 2015 yw ceisio rhoi atebion a mynd i’r afael gyda’r newid mawr yma a’i effaith ar lawr gwlad. Dyma’r unig gynhadledd yng Nghymru i’w chynnal ar y pwnc pwysig yma.

Trefnir y Gynhadledd gan Brifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd gwleidyddion, cynrychiolwyr llywodraeth leol, rheolwyr a gweithwyr yn y drydedd sector, ymchwilwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn cwrdd i drafod cwestiynau sy’n codi o gyflwyno trefn newydd o weinyddu budd-daliadau sef Credyd Cynhwysol. Cymraeg fydd iaith y Gynhadledd ond bydd cyfieithu ar y pryd ac fe’i cynhelir yn Neuadd Reichel, Bangor.

Cyflwyno Credyd Cynhwysol ydy’r newid mwyaf i’r drefn fudd-dal ers ei sefydlu ym 1948.

Bydd y Credyd yn newid elfennau o gefnogaeth lles y wladwriaeth gyda’r amcan o sicrhau na fydd neb yn waeth eu byd o weithio.

Ymysg y siaradwyr mae’r Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams AS fydd yn traddodi araith allweddol ac Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb. 

Meddai Myfanwy Davies sy’n darlithio o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor a threfnydd y gynhadledd:

''Mae cyflwyno credyd cymhwysol yn newid sylfaenol i’r wladwriaeth les sydd yn symud y cyfrifoldeb i unigolyn a rhoi mwy fyth o bwyslais ar symud ymlaen at waith. Rwy’n hynod falch ein bod yn cynnal y gynhadledd gyntaf yng Nghymru i drafod y newid. Ein bwriad yw dechrau trafodaeth bwrpasol er mwyn deall pa rai ydy’r cwestiynau y gallwn ni fel ymchwilwyr ddechrau eu hateb.''

Mynediad am ddim ond dylid cofrestru trwy e-bostio Siôn Jobbins: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk

Gellir gweld amserlen y Gynhadledd yma.

Cynhadledd yn ystyried Chwyldro ym mywydau oddeutu hanner miliwn o bobl Cymru