Bydd mwy o gyrsiau nac erioed yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni o £5,000.
Bydd mwy o gyrsiau nac erioed yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni o £5,000.
Cafodd yr ysgoloriaeth ei chynnig am y tro cyntaf y llynedd gan Ymddiriedolaeth Cronfa William Salesbury, er mwyn ysgogi darpar fyfyrwyr i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg prifysgolion Cymru.
Mae dros 60 cwrs gradd ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg ac felly’n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni a bydd gan ymgeiswyr tan 20 Mawrth i gyflwyno cais.
Mae amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys Cymdeithaseg, Newyddiaduraeth, Ffrangeg a Hanes yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni yn ogystal â graddau cyfun gydag Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg.
Megan Mai Cynllo Lewis, cyn ddisgybl o Ysgol Gyfun Bro Myrddin dderbyniodd yr arian y llynedd. Mae hi bellach yn dilyn cwrs gradd Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth:
‘‘Mae'n anodd credu bod bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gyflwyno cais am Ysgoloriaeth William Salesbury. Credaf fod cymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy’r ysgoloriaethau yn hwyluso profiad yn y brifysgol ac mi fuaswn yn annog unrhywun sydd eisiau dilyn cwrs perthnasol i ymgeisio. Felly ewch ati, mae'r broses yn syml a phob lwc i chi gyd!’’
Mae Ysgoloriaeth William Salesbury yn ychwanegol i’r ysgoloriaethau israddedig a gynigir gan y Coleg Cymraeg.
Bydd myfyrwyr sy’n dymuno astudio cyrsiau ym meysydd gwyddoniaeth, daearyddiaeth, y gyfraith, chwaraeon, busnes, meddygaeth a mwy yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg o £1,500 cyn 8 Mai 2015.