Newyddion

5 Hydref 2015

Naw yn Dilyn Gradd Doethur o dan Nawdd y Coleg Cymraeg

5 Hydref 2015
Mae naw myfyriwr wedi derbyn cyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fydd yn eu galluogi i ddilyn gradd doethur trwy gyfrwng y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

Un o’r rheiny yw’r bardd a’r cyflwynydd cyfarwydd, Aneirin Karadog fydd yn dilyn doethuriaeth yn y Gymraeg gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

Prif gwestiwn ei waith ymchwil fydd, ‘Beth yw perthynas y bardd â’i gynulleidfa ac a yw’r berthynas hon yn dylanwadu ar lais y bardd er gwell neu er gwaeth?’

Beirdd Cymraeg yng Nghymru fydd canolbwynt ei astudiaeth ond bydd hefyd yn edrych ar fyd barddoniaeth Eingl-Americanaidd a’r gwledydd Celtaidd yn ogystal ag yn trafod rôl merched yn y byd barddonol yng Nghymru.

Bwriad Kyle Jones o Landyfrïog yw cwblhau gwaith ymchwil ym maes Seicoleg gan ganolbwyntio yn benodol ar ddementia. Ei ddymuniad yw ymchwilio i effaith yr anhwylder ar iaith y dioddefwr, a’r effaith y caiff hynny ar fywydau’r gofalwyr.

Fel rhan o’i ysgoloriaeth, bydd disgwyl iddo hefyd addysgu myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn gyntaf trwy arwain sesiynau seminar yn y Gymraeg. Bydd hyn yn dechrau ar y gwaith o adeiladu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr adran ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae tair ysgoloriaeth wedi’u dyfarnu i Brifysgol Caerdydd eleni, a hynny i fyfyrwyr fydd yn astudio Cymraeg, Hanes a Gwleidyddiaeth.

Bydd Laura Beth Davies o Orseinon yn parhau i astudio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi iddi gwblhau ei phrosiect ymchwil meistr yno ar statws y Gymraeg fel ail iaith. Fel rhan o’i doethuriaeth, bwriad Laura yw cynnal ymchwil drylwyr i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel addysg bellach a chreu darn o waith fydd o ddefnydd i amryw o gyrff sy’n gysylltiedig ag addysg yng Nghymru.

Merched a gwleidyddiaeth fydd yn mynd â sylw Anys Wood o Abertawe dros y blynyddoedd nesaf, a hynny wedi iddi gwblhau gradd meistr mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd eleni. Gobaith Anys yw dilyn gyrfa o fewn y byd academaidd a chyfrannu at ddatblygiad ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Aled Morgan Hughes o’r Trallwng yn cychwyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau gradd israddedig a meistr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yn ymuno ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd gan wneud gwaith ymchwil fydd yn ffocysu ar arweinwyr gwleidyddol.

Sioned Williams o Bwllheli sydd wedi ennill ysgoloriaeth i ddilyn gradd doethur yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor. Defnydd cymdeithasol yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd a Môn fydd canolbwynt ei hastudiaeth gyda golwg ar y ffactorau sy’n effeithio ar gymhelliannau disgyblion ysgol dros ddewis addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Claire Griffith-Mcgeever o Gaernarfon wedi derbyn nawdd i astudio ym Mhrifysgol Bangor hefyd. Ffisioleg ymarfer clinigol yw arbenigedd Claire a’i dymuniad yw cyfrannu at y cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol.

Un arall o Gaernarfon fydd yn dilyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Arwel Tomos Williams, a hynny o fewn yr Ysgol Seicoleg. Mae eisoes wedi magu profiad ymchwil perthnasol ar ôl cwblhau gradd israddedig a meistr yn y maes o dan arweiniad darlithwyr cyfrwng Cymraeg yr ysgol.

Un ysgoloriaeth sydd wedi’i dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth eleni a hynny i Sioned Llywelyn o Lanilar. Bydd Sioned yn parhau i astudio yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol ar ôl derbyn BSc Daearyddiaeth oddi yno yn ogystal â chwblau cwrs MSc ym maes newid amgylcheddol eleni.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Roeddem yn falch o fedru dyfarnu’r ysgoloriaethau hyn eleni i unigolion fydd yn astudio trawsdoriad o ddisgyblaethau gwahanol. Hoffwn eu hannog i fanteisio ar yr hyfforddiant a gynigir gan y Coleg fel rhan o’u hysgoloriaeth ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu datblygiad dros y blynyddoedd nesaf.’’

Llun: Aneirin Karadog, Cymraeg, Prifysgol Abertawe

Gellir gweld lluniau o'r unigolion sydd wedi derbyn nawdd gan y Coleg eleni yma

Naw yn Dilyn Gradd Doethur o dan Nawdd y Coleg Cymraeg