Newyddion

19 Medi 2016

Cyllido Myfyrwyr i Ddatblygu Ymchwil Mewn Ystod o Feysydd

19 Medi 2016
Ers degawd a mwy mae myfyrwyr wedi manteisio ar gyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddilyn doethuriaeth mewn prifysgolion ledled Cymru ac eleni bydd deg arall yn dechrau ar y daith honno am gyfnod o dair blynedd.

Un o’r rheiny yw’r cerddor cyfarwydd o Gaerdydd, Gareth Bonello fydd wedi’i leoli yn Ysgol Cerddoriaeth a Pherfformio, Prifysgol De Cymru. Ei fwriad yw archwilio’r berthynas ddiwylliannol unigryw rhwng Cymru a Bryniau Casia yng ngogledd ddwyrain India. Bydd Gareth yn teithio i Fryniau Casia gan obeithio creu darnau newydd o gerddoriaeth yn y Gymraeg a’r iaith Gasi ar y cyd ag artistiaid Casi.

Yn ôl Gareth;

‘‘Rydw i'n hynod o ddiolchgar i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i Sefydliad Ymchwil y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru, am y cyfle arbennig yma. Mi fydd yr ysgoloriaeth yn rhoi'r amser a'r adnoddau i mi ganolbwyntio yn llwyr ar yr astudiaeth wrth barhau i weithio fel cerddor. Yn ogystal, mae'r ysgoloriaeth yn cynnig cyfle unigryw i ehangu fy ymarfer broffesiynol ac yn siŵr o agor mwy o ddrysau yn y dyfodol.’’

Bydd enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2015, Wyn Mason, yn canolbwyntio ar ddatblygu ymchwil ym maes ysgrifennu creadigol gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Ei nod yw defnyddio albwm Eilydd Na Ddefnyddiwyd gan Geraint Jarman i ymchwilio i’r berthynas rhwng cerddoriaeth, rhyddiaith a drama. Bydd yr awdur o Lanfarian ger Aberystwyth, yn falch o fedru ymrwymo i ddatblygu ei grefft yn y Gymraeg ar ôl treulio’r blynyddoedd diwethaf yn darlithio drwy gyfrwng y Saesneg.

Clefydau Parkinson’s ag Alzheimer’s sy’n mynd â sylw Luke Roberts o Gastell Nedd, a hynny yn Sefydliad Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe. Ar ôl derbyn ei addysg uwchradd drwy’r Gymraeg yn Ysgol Ystalyfera, gobaith Luke yw ehangu darpariaeth glinigol cyfrwng Cymraeg y brifysgol a chynnig profiadau ymchwil drwy’r iaith i fyfyrwyr Geneteg a Biocemeg y brifysgol.

Mae dwy ysgoloriaeth wedi’u dyfarnu i ddau sy’n dymuno dilyn doethuriaeth ym maes Gwyddor Amgylchedd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.

Bydd Rebecca Evans o’r Bala yn cychwyn yno ar ôl cwblhau MSc mewn Gwyddor Biofeddygol ym Mhrifysgol Bryste. Bydd disgwyl iddi gyfrannu at ddysgu cyfrwng Cymraeg ym maes biocemeg yn ogystal â defnyddio’i harbenigedd i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu gradd newydd sbon sef ‘Bioleg ac Iechyd Dynol’.

Maes ymchwil Gruffydd Lloyd Jones o Bwllheli fydd sefyllfa’r Rhododendron yng Nghymru a’r effeithiau mae hyn yn cael ar fioamrywiaeth a datblygu dulliau o’i reoli. Mae’n awyddus i ddatblygu’r diddordeb sydd ganddo mewn ecoleg a’r amgylchedd a chreu mwy o raddedigion dwyieithog i’r sectorau amgylcheddol a biolegol yng Nghymru.

Mae Heddwen Lleucu Daniel o Aberystwyth wedi penderfynu canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid ac astudio’r berthynas rhwng pobl ifanc yn eu harddegau â’u hysgol, a hynny ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gobeithio cyfweld gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc yn ogystal â chyfrannu at yr ychydig lenyddiaeth cyfrwng Cymraeg sy’n bodoli ym maes Troseddeg ar hyn o bryd.

Ym Mhrifysgol Bangor, bydd Gwennant Evans o Bwllheli yn cyfuno’r celfyddydau a’r gwyddorau drwy geisio deall sut mae plant ifanc yn ymateb i’r profiad o glywed a darllen barddoniaeth a darganfod beth yw’r cyswllt rhwng y ddau brofiad. Bydd wedi’i lleoli yn yr Ysgol Seicoleg ac yn cychwyn drwy recriwtio plant ifanc sy’n siarad Cymraeg fel iaith frodorol o ysgolion ledled Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae David Parry o Gaernarfon wedi dewis tynnu ar brofiad personol o gael ei godi ar aelwyd Saesneg er mwyn darganfod beth sy’n rhwystro siaradwyr amharod y Gymraeg rhag defnyddio’r iaith. Ei nod yw ymgysylltu â’r garfan honno o’r boblogaeth sy’n deall Cymraeg ond ddim yn siarad yr iaith a chynyddu defnydd o’r iaith yn eu plith. Bydd yntau hefyd wedi’i leoli yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.

Yn olaf, dyfarnwyd dwy ysgoloriaeth i Brifysgol Caerdydd, sydd wedi’u rhoi i Megan Haf Morgans o Abergwili, a Rhianwen Daniel o Gaerdydd. Llenyddiaeth Plant fydd yn mynd â bryd Megan, a hynny dan oruchwyliaeth Dr Siwan Rosser a’r Athro Sioned Davies yn Ysgol y Gymraeg.

Astudio’r dylanwadau a fu ar waith a theithi meddwl Athronydd pwysicaf y Gymru Gymraeg fydd Rhianwen, sef y diweddar Athro J.R. Jones, a hynny dan oruchwyliaeth yr Athro Richard Wyn Jones o’r Adran Wleidyddiaeth a Dr Huw Williams o’r Adran Athroniaeth.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld a lawrlwytho lluniau o’r rhai sydd wedi derbyn ysgoloriaeth ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Llun: Gareth Bonello

Cyllido Myfyrwyr i Ddatblygu Ymchwil Mewn Ystod o Feysydd