Pan fu farw Gwyn Thomas ym mis Ebrill 2016, collodd Cymru drysor cenedlaethol. Am bron deugain mlynedd, dylanwadodd ar genedlaethau o fyfyrwyr fel darlithydd, athro a phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. (Hawlfraint llun Marian Delyth)
Am dros hanner canrif, bu’n un o ysgolheigion amlycaf ei genhedlaeth ac un o feirdd mwyaf cynhyrchiol, sylweddol a phoblogaidd Cymru.
Roedd Gwyn yn Gymrawd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Er mwyn sicrhau bod gwaddol Gwyn yn un byw, mae Prifysgol Bangor wedi mynd ati i sefydlu cronfa goffa i gefnogi a gwobrwyo myfyrwyr o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor – yr adran yr uniaethwyd ef â hi fel myfyriwr ac academydd ar hyd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol – a hynny yn y meysydd niferus yr ymddiddorai ef ei hun ynddynt.
Derbynnir pob rhodd yn ddiolchgar er cof am ŵr a adawodd ei ôl yn annileadwy.
I gael mwy o wybodaeth am sut i wenud cyfraniad ewch i wefan Prifysgol Bangor.