Mae’r neges hon yn crynhoi rhai o’r camau mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cymryd yn ystod yr ansicrwydd presennol. Mae’r Coleg yn cymryd y camau hyn gan ystyried iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr, cyfeillion y Coleg a’r gymuned ehangach.
Trefniadau gweithio
Yn dilyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth y DU i bawb sy’n gallu gweithio o adref i wneud hynny, mae holl staff y Coleg bellach yn gweithio o adref ac mae ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Bangor ynghau.
Cysylltu gyda'r Coleg
Cysylltwch â ni drwy e-bost ar hyn o bryd. Mae rhestr o gyfeiriadau e-byst uniongyrchol ar gyfer ein staff yma neu gallwch ddanfon neges at gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk. Mae’r cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei fonitro’n gyson yn ystod oriau gwaith. Yn ystod y cyfnod Covid-19, gwnawn ein gorau i ymateb i ymholiadau ond mae’n bosibl y bydd oedi.
Cyfarfodydd a digwyddiadau’r Coleg
Gohiriwyd nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau a oedd wedi eu trefnu gan y Coleg i’w cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf gan gynnwys –
- Cynhadledd Iechyd (21 Mawrth 2020)
- Y Cynulliad Blynyddol (24 Mawrth 2020)
- Llys y Coleg (24 Mawrth 2020)
- Cyfarfod Bwrdd Cyfarwyddwyr (25 Mawrth 2020)
- Cynhadledd Hanes (25 Mawrth 2020)
- Pob panel pwnc hyd o leiaf Ddydd Llun 20 Ebrill 2020
Cyfarfodydd tymor yr Haf
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer tymor yr Haf. Ar hyn o bryd nid yw’r rhain wedi eu gohirio ond byddwn yn adolygu’r sefyllfa maes o law.
TSI
Mae arholiad ysgrifenedig y Dystysgrif Sgiliau Iaith ym mis Mai wedi ei gohirio fel canlyniad i’r argyfwng. Byddwn yn trafod yr opsiynau a sefyllfa ymgeiswyr pan fydd pethau wedi sefydlogi.
Prosiectau
Yr ydym yn gwerthfawrogi bod yr argyfwng yn effeithio ar amserlen rhai prosiectau. Byddwn yn barod iawn i adolygu’r sefyllfa maes o law.
Taliadau Ysgoloriaethau’r Coleg
Mae taliadau ysgoloriaethau i fyfyrwyr yn cael eu prosesu ar gyfer talu cyn diwedd mis Mawrth 2020, yn unol â’r amserlen.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Coleg dilynwch ni ar Twitter @ColegCymraeg ac os oes gennych ymholiad e-bostiwch gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk
Hoffai staff y Coleg ddiolch i chi rhag blaen am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. Cymerwch ofal a dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru.