Mae cannoedd o adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr prifysgol a blwyddyn 12 sydd yn astudio adref yn sgil argyfwng Coronavirus.
Mae adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim drwy lyfrgell ddigidol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Maent yn cynnwys e-lyfrau, darlithoedd, erthyglau academaidd, fideos, deunydd cyfeiriol a mwy.
Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae ap tabl cyfnodol, cyfrwng sy’n llawn ffeithiau a lluniau, ac sy'n ddelfrydol i fyfyrwyr, athrawon, neu unrhyw un â diddordeb mewn cemeg. Mae’r ap ar gael drwy'r Apple Store a Google Play Store.
Adnodd poblogaidd arall ydy’r Cyfaill Celfyddyd sydd yn cynnig pecyn o fideos ac adnoddau electronig sydd yn cynnig cyngor astudio a gyrfaol, ac yn cyflwyno myfyrwyr i artistiaid sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn 18 o feysydd gwaith gwahanol.
Ac ym maes Gwleidyddiaeth, mae e-lawlyfrau a fideos ar gael yn cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol y pwnc.
Meddai Mari Fflur, un o Reolwyr Academaidd y Coleg:“Mae nifer o’r adnoddau yn addas ar gyfer y rhai fydd yn astudio tuag at arholiadau Safon Uwch y flwyddyn nesaf neu’n dechrau paratoi ar gyfer mynd i brifysgol.”
Gellir gweld rhestr o’r adnoddau mwyaf addas ar gyfer blwyddyn 12 Adnoddau Safon U + UG.
Yn ogystal, gall myfyrwyr a darlithwyr prifysgol sydd yn aelodau o’r Coleg Cymraeg fewngofnodi i Lyfrgell y Coleg er mwyn cael mynediad at gannoedd o raglenni o archif S4C.