Newyddion

Cyhoeddi enillydd Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt 2021.

Rebecca Thomas yw enillydd cyntaf Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt. Cyhoeddir ei hysgrif fuddugol – ‘Cribo’r Dragon’s Back’ – yn Rhifyn Gaeaf O’r Pedwar Gwynt a gyhoeddir ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr. Yn wobr, bydd yn derbyn £300, a phreswyliad byr i weithio ar ysgrif bellach.

Meddai Rebecca Thomas: ‘Mae’n fraint arbennig ennill y gystadleuaeth gyffrous hon. Roedd yn braf cael arbrofi gyda math newydd o gyfansoddi a chael rhoi sylw i bwnc sydd mor agos at fy nghalon. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r beirniaid, y cylchgrawn, a’r noddwyr am y cyfle a’r gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at fwrw ati i ysgrifennu rhagor o ysgrifau yn y dyfodol agos.

Bwriad y gystadleuaeth, a drefnir dan nawdd ac mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw annog mwy o awduron i roi cynnig ar gyfansoddi ysgrif, ac yn unol ag ystyr waelodol y gair – essai – hybu arbrofi deallusol mewn cywair personol.


Yn ôl Golygydd O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands: ‘Mae ffurf yr ysgrif wedi bod yn ganolog i O’r Pedwar Gwynt ers y dechrau. Ysbrydolwyd gweledigaeth eangfrydig y cylchgrawn gan yr ysgrifwr Cymraeg digymar, T H Parry-Williams. Dyma ffurf sy’n briodas rhwng emosiwn a rheswm ac sy’n cynnig cyfle i archwilio’r tir llwyd a gaiff yn aml ei esgeuluso. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cyfnod lle mae pwyslais ar fod yn gryno, a safbwynt yn cael ei ddatblygu yn gynyddol trwy ffurfiau unplyg, megis trydar.’

Meddai Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Rebecca Thomas am ennill Gwobr Ysgrif 2021 O’r Pedwar Gwynt. Mae’r Coleg yn falch o noddi’r gystadleuaeth newydd hon eleni ac roedd hi’n braf gweld cymaint wedi manteisio ar y gweithdai ysgrif arbennig a drefnwyd o dan ofal yr Athro Angharad Price. Llongyfarchiadau i Rebecca ar ddod i’r brig gydag ysgrif afaelgar sy’n cyfuno tirwedd, hanes a chwedl, a phob hwyl iddi ar ei phreswyliad i weithio ar ysgrif bellach.’

Magwyd Rebecca Thomas yng Nghaerdydd ac mae hi’n gymrawd ôl-ddoethuraethol yr Academi Brydeinig yn adran hanes ac archaeoleg Prifysgol Bangor ar hyn o bryd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Bydd yn dechrau swydd newydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ym mis Ionawr. Cyhoeddir ei chyfrol History and Identity in Early Medieval Wales yng ngwanwyn 2022. Bydd ei nofel hanesyddol ganoloesol i oedolion ifanc hefyd yn cael ei chyhoeddi yn 2022, gan wasg Carreg Gwalch. Hon yw ei hysgrif gyhoeddedig gyntaf.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Mererid Puw Davies (Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain), y llenor a’r bardd Gwyneth Lewis, yr awdur Llŷr Gwyn Lewis a Sioned Puw Rowlands
(Golygydd O’r Pedwar Gwynt).

Meddai Llŷr Gwyn Lewis, ‘Fel un sy’n hoff o fynydda fy hun, roedd cael darllen ysgrif dreiddgar fel hon yn bleser. Creigiau Eryri neu gopaon canolog y Bannau sy’n denu’r ysgrifwyr yn amlach na heb, ac amheuthun felly oedd cael dringo Waun Fach a Phen y Gadair Fawr yng nghwmni Rebecca. A dyna i chi gwmni, a llais, difyr dros ben sy’n anelu am gopaon llai treuliedig y meddwl hefyd, gan gynnig inni ystyriaeth gyfoes a sensitif o’r hyn a alwyd gan J R Jones yn gydymdreiddiad iaith a thir, ac ailystyriaeth hefyd o honiad enwog Waldo Williams am ein mynyddoedd: ‘Ni fedr ond un iaith eu codi, / A’u rhoi yn eu rhyddid yn erbyn wybren cân’. 

Meddai Mererid Puw Davies am waith yr enillydd: ‘Mae’r ysgrif fuddugol yn mynd i dir uchel ar sawl cyfrif. Ar y naill law mae’n ein tywys am dro i’r mynyddoedd, yn llythrennol felly. Ar y llaw arall, mae’n codi cwestiynau treiddgar am iaith, am dirlun ac am newid. A dreigiau.’


Meddai Gwyneth Lewis: ‘Mae’r gallu i gyfansoddi ysgrif glir, ddychmygus a gwreiddiol yn hanfodol i ddyfodol llenyddiaeth. Mae ymarfer y ddisgyblaeth o feddwl yn feirniadol, er mwyn galluogi rhywun arall i weld y byd mewn ffordd ffres a chyfoethog, yn rhan o’r ddeialog ac yn sail hanfodol i’n gwleidyddiaeth a’n cymdeithas. Does dim ots beth yw’r testun, y daith drwy’r meddwl yw’r pwynt, er ein lles ni gyd. Dyma gystadleuaeth holl bwysig.’

Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu ‘Cribo’r Dragon’s Back’, meddai Rebecca Thomas, wrth gerdded yn y Mynyddoedd Duon a chyfarfod â sawl dieithryn ar y daith. Arhosodd un sgwrs yn y cof. Dysgais fod enw arall i’r Grib, cefn wnes i gerdded ar ei hyd, sef The Dragon’s Back. Enw gweddol newydd yw hwn, ond enw poblogaidd sydd wedi llwyddo i ddisodli’r enw Cymraeg ar-lein. Ond roedd mwy i’r sgwrs hefyd. Cefais glywed mai draig ynghwsg oedd y Grib – siâp y tirwedd, mae’n debyg, sydd wedi ysgogi’r hefyd. Cefais glywed mai draig ynghwsg oedd y Grib – siâp y tirwedd, mae’n debyg, sydd wedi ysgogi’r enw newydd. Roedd hyn yn canu sawl cloch. Gweithio gyda thestunau canoloesol fyddaf i wrth fy ngwaith bob dydd; ymchwilio i syniadau ynghylch hunaniaeth Gymreig mewn llenyddiaeth, a hanesion Cymraeg a Lladin yr Oesoedd Canol. Felly roedd y math hwn o stori yn gyfarwydd iawn: stori oedd yn egluro enw, stori oedd yn tynnu sylw at nodweddion y tirwedd, stori oedd yn creu hunaniaeth ar gyfer y bobl leol. Ond stori, yn yr achos hwn, oedd hefyd yn annog symudiad ieithyddol; dehongliad Saesneg o le penodol ac iddo enw Cymraeg cyn hyn. Defnyddiais yr ysgrif fel cyfrwng i adlewyrchu ar y broses hon o greu hunaniaethau a cholli iaith yn yr 21g.’ 

Gellir darllen yr ysgrif fuddugol, ‘Cribo’r Dragon’s Back’, ar wefan O’r Pedwar Gwynt

Cyhoeddi enillydd Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt 2021.