Newyddion

Dydd Mawrth 10 Mai 2022

Dathlu’r 10: Pen-blwydd Hapus i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dydd Mawrth 10 Mai 2022
Ddeng mlynedd ers ei sefydlu, mae gwaddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y sector addysg uwch yn glir, ac mewn dathliad yn y Senedd heddiw (10 Mai) mae’r sefydliad yn datgan ei fwriad i sicrhau’r un llwyddiant yn y sector ôl-16.

Ar droad y ganrif, hap a damwain oedd bod myfyriwr yn gallu dilyn cwrs prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ac felly pan sefydlwyd y Coleg yn 2011, y nod oedd sicrhau cynnydd yn nifer y pynciau prifysgol y gellid eu hastudio drwy’r Gymraeg. Wedi degawd o waith cynllunio a buddsoddi, erbyn hyn mae modd astudio rhan o gwrs gradd mewn 33 allan o 37 prif grŵp pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, mae 1,135 o staff mewn prifysgolion yn medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae dros 1,900 o fyfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau is-raddedig i ddilyn eu hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn 2010/11, roedd 3,005 o fyfyrwyr llawn amser yn astudio o leiaf rywfaint o’u cwrs addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn 2019/20, roedd hyn wedi codi i 4,740.  

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:  “Ers sefydlu’r Coleg  yn 2011, mae agweddau wedi newid  ac mae’r tirwedd wedi newid. Mae addysg cyfrwng Cymraeg prifysgol yn cael ei gydnabod nawr fel rhywbeth sy’n hollol dderbyniol ac i’w groesawu ac mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o’r ddarpariaeth a ddatblygwyd  ers sefydlu’r Coleg. Mae hynny wedi paratoi’r tir i'r Coleg allu camu i faes addysg ôl-16, ac ar gychwyn degawd newydd dyma ydy un o’n prif flaenoriaethau.” 

Addysg prifysgol oedd canolbwynt gwaith y Coleg yn y blynyddoedd cynnar ond ers 2019 mae gan y Coleg hefyd gyfrifoldeb am ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn colegau addysg bellach ac yn y maes prentisiaethau. Eleni am y tro cyntaf roedd y Coleg yn gyfrifol am ariannu 20 o swyddi darlithio mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, dau ym mhob un o’r 10 coleg. Ers cychwyn ar y gwaith yn y maes ôl-16 mae dros ddeng mil o ddysgwyr a phrentisiaid wedi elwa o brosiectau’r Coleg.  

I nodi deng-mlwyddiant y Coleg mae digwyddiad heddiw (10 Mai) yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS. Wrth siarad cyn y digwyddiad meddai’r Gweinidog: “Mae’r Coleg yn gwneud gwaith hollbwysig o fewn y sectorau addysg bellach ac uwch, a phrentisiaethau, i gyfrannu at amcan y Llywodraeth i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae gan weithwyr mewn amryw o sectorau y sgiliau a’r hyder i weithio trwy’r Gymraeg diolch i waith y Coleg dros y degawd diwethaf.” 

Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i gofio cyfraniad sylweddol cyn-Gadeirydd y Coleg, Gareth Pierce, a fu farw’n sydyn llynedd a bydd Dr Ioan Matthews yn cyhoeddi bod y Coleg yn lansio Gwobr Prentisiaethau arbennig er cof amdano.  

Meddai Ifan Phillips, o Grymych, sy’n brentis Gwaith Trydanol yng Ngholeg Sir Benfro:  “Mae astudio rhan o fy nghwrs drwy’r Gymraeg wedi fy ngalluogi i astudio yn fy mamiaith, iaith rwy’n fwy cyfforddus yn siarad, a dwi hefyd wedi gwella fy Nghymraeg sydd wedi fy ngalluogi i gyfathrebu gyda cwsmeriaid ar lefel broffesiynol. P’un ai rydych chi’n astudio doethuriaeth yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dilyn prentisiaeth, mae’r iaith yn perthyn i ni gyd.” 

Yn ogystal, mae llyfryn a fideo wedi’u cynhyrchu sy’n crisialu hanes sefydlu’r Coleg, y llwyddiannau hyd yma a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac yn cynnwys straeon dysgwyr, myfyrwyr, ymarferwyr a darlithwyr sydd wedi bod yn rhan ac wedi elwa o waith y Coleg.  

Ar ddechrau’r ganrif, roedd y bardd, awdur a sgriptwraig, Catrin Dafydd, yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn ystod 2003 a 2004. Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg ac mae hi bellach yn Gymrawd er Anrhydedd y Coleg. Meddai Catrin: “O’ch chi ddim yn gweithredu mewn ynys, roedd e’n llif parhaus o leisiau yn datgan bod y sefyllfa fel ag yr oedd hi ddim yn iawn. O ran Aberystwyth, roedd hi’n dod yn gynyddol amlwg bod yna ddeisyfiad gan fyfyrwyr i astudio mwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth yn amlwg wedyn bod myfyrwyr mewn prifysgolion eraill yn cydymdeimlo a doedd ‘na fawr ddim gwrthwynebiad ymysg myfyrwyr eraill wedyn. Er, ar y cyfan, bo ni ddim yn genhedlaeth oedd mor wleidyddol â myfyrwyr yr wythdegau, fi’n credu oedden ni’n gallu gweld drwy ddatganoli bod modd gweld geni strwythurau cenedlaethol yn ein cyfnod ni.” 

Mae Dr Alwena Morgan yn ddarlithydd cyfrwng Cymraeg mewn Biofeddygaeth yn Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Abertawe, ac er nad oedd modd iddi hi astudio’r Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg pan oedd hi’n fyfyrwraig yn 2005, mae hi wedi elwa yn ei gyrfa ers bodolaeth y Coleg a nawr yn addysgu gwyddonwyr cyfrwng Cymraeg y dyfodol: 

“Doeddwn i byth wedi dychmygu gyrfa ble fydden i wedi gallu cyfuno Gwyddoniaeth a’r Gymraeg. Rwy’n teimlo mor falch fy mod wedi gallu datblygu fy Nghymraeg, yn enwedig ar ôl i mi ei golli mwy neu lai ar ôl mynd i’r brifysgol. Fel darlithydd cyfrwng Cymraeg, rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael y swydd yma sydd yn golygu bydd cenhedlaeth newydd o wyddonwyr fydd yn gallu gweithio yn hollol ddwyieithog, ac yna cenhedlaeth arall ar eu holau nhw.” 

Yn ôl Emily Pemberton o Grangetown, Caerdydd, myfyrwraig Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, sy’n astudio rhan o’i gradd drwy gyfrwng y Gymraeg:  “Rwy mor ddiolchgar i fy mam am benderfynu fy rhoi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg – roedd hyn yn benderfyniad gwahanol iawn i wneud ar y pryd yn y gymuned ble cefais fy magu. Roedd yn gam naturiol wedyn i mi barhau gyda fy addysg Gymraeg yn y brifysgol, ac oherwydd hynny rwy wedi cael cyfleoedd eang, yn y brifysgol a thu hwnt, gan gynnwys bod yn rhan o raglenni Pawb a’i Farn a Terfysg yn y Bae ar S4C.  

“Dwi ‘di cyrraedd oedran a sylweddoli bod bron bob dim dwi’n gwneud drwy’r iaith Gymraeg – dwi’n gweithio drwy’r Gymraeg, yn cymdeithasu drwy’r Gymraeg, a nawr yn astudio drwy’r Gymraeg. Mae’n glir byddai fy llwybr i dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn wahanol iawn os nad oeddwn i’n medru’r iaith. Rwy’n edrych ymlaen i’r dyfodol ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn gwneud i mi deimlo mor bositif, i fyw bywyd dwyieithog, a pharhau i brofi bod unrhyw beth yn bosib wrth siarad Cymraeg.” 

Wrth edrych i’r dyfodol mae’r Coleg yn bwriadu parhau â’r gwaith o ddenu hyd yn oed mwy o fyfyrwyr i astudio elfen o’u cwrs gradd trwy’r Gymraeg, cynyddu’r buddsoddiad mewn darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16, yn ogystal â chefnogi’r Llywodraeth i sicrhau bod digon o athrawon gyda sgiliau Cymraeg yn hyfforddi i ddysgu yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd. Trwy hyn, bydd y Coleg yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at darged Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050.  

Ychwanegodd Dr Matthews: “Os yw myfyriwr yn mentro i fyd gwaith ar ôl cwblhau eu cwrs addysg bellach, brentisiaeth neu radd trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, yna’r gobaith yw y byddan nhw’n aros yn eu cymunedau gan sicrhau swyddi dwyieithog, magu teulu dwyieithog yn lleol, dod yn rhan o’r gymuned a chadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar lefel broffesiynol a chymdeithasol. Mae cymaint wedi ei gyflawni yn ystod degawd cyntaf y Coleg ond does dim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau - rôl y Coleg dros y degawd nesa ydy  cryfhau ac atgyfnerthu yr hyn sydd wedi ei ddechrau – mae’r daith yn parhau!”  

 

Dathlu’r 10: Pen-blwydd Hapus i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol