Newyddion

Dydd Mawrth 4 Hydref 2022

‘Hunaniaethau: Cymreictod’ Cyfres newydd i drin a thrafod Cymru yn ei holl amrywiaeth

Dydd Mawrth 4 Hydref 2022
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu (mis Hydref 2022), bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio cyfres o sgyrsiau ar-lein sy’n mynd i’r afael â hunaniaeth cenedlaethol o bersbectif amrywiol megis crefydd, hil, rhywedd, a LHDTC+ yng Nghymru.

Wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno cwricwlwm newydd i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru o fis Medi 2022 sy’n gwneud dysgu am hanes pobl Ddu, Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig, ac addysg cydberthynas a rhywioldeb yn orfodol, bydd y gyfres ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yn trafod hunaniaethau yng Nghymru heddiw yn eu holl amrywiaeth. Bydd yn cynnwys sgyrsiau a thrafodaethau agored ac onest gydag unigolion o wahanol feysydd, cymunedau a sefydliadau gan gynnwys yr athrawes Natalie Jones, yr Athro Laura McAllister a’r ffoadur o Arfordi Ifori sydd erbyn hyn yn gweithio fel athro Cymraeg, Joseph Gnagbo.

Bydd y sesiwn gyntaf ar ddydd Iau 13 Hydref 2022 am 18:00 i nodi Mis Hanes Pobl Ddu a’r cyfrannydd cyntaf yw Natalie Jones sydd o dras Jamaicaidd a symudodd gyda’i theulu i Bwllheli o Firmingham i fyw pan oedd hi’n 9 oed.

Erbyn hyn mae Natalie yn gweithio fel athrawes cyflenwi yng Ngorllewin Cymru, yn golofnydd cyson gyda chylchgrawn Golwg, ac yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cwricwlwm newydd. Bydd ei sesiwn, ‘Mae yn fy DNA’, yn fewnwelediad i sut mae unigolyn o gefndir amrywiol yn uniaethu â chymdeithas yng Nghymru heddiw. Ac yn ôl Natalie, bydd y cwricwlwm newydd yn addysgu’r genhedlaeth nesaf yn ddyfnach am hunaniaeth Gymreig:

“Mae addysgu hanes bobl Ddu, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol i blant yn yr ysgol yn allweddol er mwyn addysgu plant bod eu hil, crefydd a’u cefndir mor bwysig â'i gilydd. Fel plentyn yn tyfu fyny yng Nghymru, roeddwn i’n teimlo’n unig iawn oherwydd doedd neb yn deall pam oeddwn i’n edrych yn wahanol. O hyn ymlaen, pan fydd plant o gefndir lleiafrifol ethnig yn ymadael â’r ysgol, mawr obeithiaf byddant yn teimlo eu bod yn perthyn i gymdeithas yng Nghymru.”

Trefnir y gyfres gan Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, o dan nawdd y Coleg Cymraeg

Meddai Gareth oedd hefyd yn gyfrifol am y gynhadledd lwyddiannus, Y Ddraig Amryliw a gynhaliwyd ym mis Chwefror eleni i gyd-fynd â mis Pride:

“Mae ‘Cymreictod’ fel cysyniad yn un aml haenog ac amlweddog, ac yn parhau i esblygu. Diben cyfres ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yw cyflwyno sgyrsiau ysgogol am agweddau amrywiol ar yr hyn a olygir wrth ‘Gymreictod’ yn hanesyddol, yn gyfredol, a chyda golwg at y dyfodol.”

Yn ôl Noam Devey, a benodwyd i swydd newydd fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth o fewn y Coleg Cymraeg eleni :

“Mae’r Coleg yn falch iawn o noddi’r gyfres bwysig hon. Ryn ni’n cymryd yr agenda Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth o ddifri ac mae sicrhau bod materion sy’n ymwneud â holl agweddau ar fywyd, cymunedau a diwylliannau amrywiol yng Nghymru yn cael eu trafod drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig.

“Mae’r Coleg yn ddiolchgar i Gareth Evans-Jones am drefnu’r gyfres oherwydd mae’n adlewyrchu gwaith pwysig y Coleg wrth amlygu amrywiaeth Cymru o ran cymunedau, hil a chrefydd a sicrhau fod gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn trafodaethau o’r fath. Mae croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan yn y gyfres.”

Ymysg y siaradwyr eraill bydd yr ysgolhaig a’r cyn chwaraewraig bêl- droed rhyngwladol, Yr Athro Laura McAllister sydd hefyd wedi bod yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru, ar fwrdd UK Sport, ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Fel aelod ac ymgyrchydd yn y gymuned LHDTC+ yng Nghymru bydd hi’n trin a thrafod hunaniaeth Gymreig ynghylch chwaraeon a chynwysoldeb y gymuned LHDTC+ yn y maes. Ar drothwy Cwpan y Byd yn Qatar, yn ôl Laura, mae tîm pêl-droed Cymru yn arwain y ffordd gyda'i ddelwedd fodern a chynhwysol, ac mae Cwpan y Byd yn gyfle amhrisiadwy i adlewyrchu hyn i weddill y byd:

“Mae pêl-droed Cymru wedi llwyddo ymgysylltu â chymunedau diwylliannol amrywiol, gan gysylltu'r lleol â'r cenedlaethol a'r byd-eang i bob pwrpas. Rydym wedi symud ymhell o'r ddelwedd hen ffasiwn a nawddoglyd sydd gan lawer o ddinasyddion y byd o'n cenedl. Felly, bydd y dirgelwch a'r diddordeb am Gymru yn ffres i gynulleidfaoedd yn Qatar 2022. Mae angen i'n naratif fod yn flaengar ac yn seiliedig ar werthoedd Cymru fel cenedl enfys, dinesydd byd-eang da sydd â phobl gynhwysol a chroesawgar, ieithoedd a diwylliannau amrywiol.”

Yn ogystal bydd sgwrs gyda Joseff Gnagbo, ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica i geisio lloches yng Nghymru yn 2019. Tair blynedd yn ddiweddarach, bydd Joseff, sydd erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg, yn trafod ei hunaniaeth newydd ers iddo ymadael a’i deulu a’i famwlad o ganlyniad i ryfel.

Bydd sgyrsiau hefyd gydag aelodau o Gyngor Mwslim Cymru a Chyngor Bwdiiaeth Cymru i drafod rhyng-grefyddoldeb, a bydd rhai o awduron Welsh Plural: Essays on the Future of Wales yn trafod y gyfrol sy’n herio’r stereoteip am Gymreictod.

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn fisol ar-lein tan fis Mai ac ar agor i’r cyhoedd. Mae modd cofrestru ar wefan Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg

‘Hunaniaethau: Cymreictod’  Cyfres newydd i drin a thrafod Cymru yn ei holl amrywiaeth