Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynllunio a chefnogi darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg ar sail strategol ar draws prifysgolion Cymru. Trwy gydweithio gyda’r prifysgolion mae’r Coleg yn eu galluogi i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Yn benodol, mae’n noddi swyddi darlithio cyfrwng Cymraeg, yn cefnogi prosiectau i greu darpariaeth ac adnoddau newydd, ac yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch trwy’r Gymraeg.
Sefydlwyd y Coleg fel cwmni cyfyngedig drwy warant ac elusen gofrestredig ar 31 Mawrth 2011. Sail gyfansoddiadol y Coleg yw'r Memorandwm a'r Erthyglau Cymdeithasu sydd wedi eu cytuno a'u harwyddo gan bob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru. Mae'r Memorandwm a'r Erthyglau, neu'r Cyfansoddiad, yn sail i ymgorfforiad y Coleg ac yn gosod hawliau, disgwyliadau a chyfrifoldebau'r Coleg yn ogystal a rheolau ynglyn ag Aelodaeth. Mae pob prifysgol yng Nghymru yn aelodau, ynghyd â 10 aelod rhanddeiliadol arall a Chadeirydd Annibynnol. Mae'r 21 Aelod hyn yn ffurfio Llys y Coleg, sydd yn cwrdd ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg sydd yn gyfrifol am gyfarwyddo strategaeth y Coleg ac mae'n cynnwys 13 o aelodau yn cynnwys y Cadeirydd. Ceir mwy o wybodaeth am Fwrdd y Cyfarwyddwyr wrth glicio ar y ddolen ar y dde.