Penodwyd llysgenhadon yn y maes Addysg Bellach a Phrentisiaethau am y tro cyntaf y llynedd. Yn ystod eu cyfnod, maent wedi bod yn cyfrannu blogs ysgrifenedig yn sôn am eu profiadau. Ewch i ddarllen, i ddysgu mwy am eu rôl, eu bywydau personol a'u gwaith.
Ar ôl cyfnod hir o astudio o adre’ rhwng mis Mawrth a Gorffennaf - lle'r oedd fy narlithoedd ar 'Zoom' ac roeddwn yn cwblhau aseiniadau o bell, daeth wythnosau braf y gwyliau Haf. Cyfle i wylio ffilmiau Disney a Netflix, cyfarfod ffrindiau a mynd am dro, a dathlu pen-blwydd ambell i ffrind yn ddeunaw oed yn eu gerddi.
Pan oedd mam a dad yn troi yn ddeunaw oed roedd ganddyn nhw ryddid i yrru car, partio gyda ffrindiau a theithio i fwynhau’r Haf. Dwi newydd droi yn ddeunaw ac mae fy mhrofiad i o fod yn oedolyn yn un hollol wahanol. Dwi dal heb basio fy mhrawf gyrru, dwi heb brynu diod mewn tafarn a dwi ddim hyd yn oed wedi gadael fy milltir sgwâr.
Ers talwm byddwn wedi meddwl taw ystyr ‘zoom’ oedd symud yn gyflym neu dechneg camera ond o fewn 24 awr o weithio o adref mi oeddwn yn hen gyfarwydd â chyfarfodydd Zoom lle bu’n rhaid trafod gyda’m nghydweithwyr hanner y cyflymder y byddwn fel arfer a gorfod aros am 30 eiliad o oedi cyn derbyn ymateb ganddynt...
Mae'r rhain yn amseroedd rhyfedd ac mae'r frwydr yn erbyn argyfwng COVID-19 yn flaenoriaeth i lawer ar hyn o bryd. Er hyn, nid COVID-19 yw'r unig argyfwng y mae angen i ni ei daclo, ni allwn anghofio am argyfwng yr hinsawdd.
Yn fy marn i, mae pobl o oedran fi mewn mwy o berygl gydag iechyd meddwl am fod pethau fel mynd i Uni, arholiadau, a straen yn unigryw i bobl ifanc, fel fi. Yn gynharach eleni, dwi wedi mynd trwy bethau erchyll, a dwi heb fod trwy unrhyw beth fel ‘na o blaen, ac roedd yn anodd, iawn.
Heiya! Sean sy’ ma’ a dwi’n astudio Astudiaethau Ffilm, Cyfryngau, Saesneg (Iaith) a'r Gyfraith yn Coleg Cambria. Dyma ni fy mlog cyntaf, sy’n eithaf difrifol (mae'n ddrwg gen i), ond mae’n bwnc llosg ar hyn o bryd a bydd y blog yn galluogi chi i roi barn ar y mater a chwythu stêm, os liciech chi.