Manteision Dwyieithrwydd
Mae manteision a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu sgiliau dwyieithog yn bwysig ar gyfer unrhyw swydd y dyfodol.
Mae arolygon cyflogwyr yn dangos bod prinder sgiliau Cymraeg yn enwedig ym meysydd Iechyd a Gofal, Gofal Plant a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dyma rai o fanteision ehangach addysg ddwyieithog:
DWY IAITH – DWYWAITH Y DEWIS
Gall dwyieithrwydd gynyddu cyfleoedd a dewisiadau. Y brif farn ryngwladol yw bod gan ddwyieithrwydd fanteision pendant i bawb, ac wrth symud ymlaen i i’r byd gwaith bydd gen ti fwy o ddewis oherwydd fod gen ti ddwy iaith.
MANTEISION ADDYSGOL
Mae ymchwil ryngwladol yn dangos bod dysgwyr/myfyrwyr sy’n meddu ar ddwy iaith yn perfformio’n well mewn arholiadau ac asesiadau.
CYFLOGAETH
Yn sgil polisïau a deddfwriaeth newydd yng Nghymru, mae mwy a mwy o alw am bobl sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog. Mae cyflogwyr yn gwybod bod angen iddynt gyflogi gweithwyr sy’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn iddynt allu cynnig y gwasanaethau gorau posibl i’w cwsmeriaid. Ar gyfartaledd, mae gweithwyr sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog yn ennill mwy o gyflog hefyd.
MANTEISION I’R YMENNYDD
- Mae gwaith ymchwil yn dangos bod deall dwy iaith i safon uchel yn gallu bod o fantais i’r ymennydd.
- Meddwl yn greadigol – mae gan unigolyn dwyieithog o leiaf ddau air am bob peth a dau syniad gwahanol. Golyga hyn y gall person dwyieithog ddod i feddwl yn fwy hyblyg am bopeth.
- Sensitifrwydd: mae’n rhaid i bobl ddwyieithog wybod pa iaith i siarad â phwy a phryd. O ganlyniad, maent yn datblygu i fod yn fwy sensitif i anghenion gwrandawyr na phobl sy’n siarad un iaith yn unig.
- Darllen: mae pobl ddwyieithog yn rhoi mwy o bwyslais ar ystyr geiriau yn hytrach na’u sŵn. Gall hyn fod yn hwb iddynt wrth ddarllen.
HUNANIAETH A MANTEISION CYMDEITHASOL
Mae’r iaith Gymraeg yn unigryw i Gymru. Gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydynt yn ei siarad. Mae’r iaith yn perthyn i bawb sy’n byw yma. Ceir manteision cymdeithasol o fod yn meddu ar ddwy iaith. Gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant. Gyda iaith daw idiomau, dywediadau, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a thraddodiadau gwahanol. Gall hyn greu gwell dealltwriaeth o wahanol ddiwylliant a gwahanol ffyrdd o feddwl ac ymddwyn.
Cofiwch – dwyieithrwydd yw’r norm yn y mwyafrif o wledydd y byd!