Sicrhau mynediad i’r adnoddau
Er bod nifer o’r adnoddau cefnogol yn agored, gall myfyrwyr a staff o unrhyw sefydliad addysg uwch ymaelodi â’r Coleg er mwyn sicrhau mynediad i’r holl adnoddau a chyrsiau.
Er mwyn hwyluso’r broses i fyfyrwyr, mae gan y Coleg gytundeb gyda nifer o sefydliadau sy’n galluogi aelodau i gael mynediad uniongyrchol at fodiwlau cyfrwng Cymraeg sydd ar y Porth trwy rith-amgylchedd dysgu eu prifysgol heb orfod mewngofnodi am yr eildro.