Swyddog Cangen: Tamsin Davies a Sharon Owen (rhannu swydd)
Mae gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fywyd cyfrwng Cymraeg heb ei ail. Daw ein myfyrwyr o bob rhan o Gymru ac maent yn ymuno ym mhob math o weithgareddau. Yn ganolog i’r bwrlwm y mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol ac yn gofalu am les myfyrwyr. Mae Cymdeithas y Geltaidd yn cynnig timau rygbi, pêl-droed, hoci a phêl-rwyd ac yn trefnu teithiau rygbi. Mae Aelwyd Pantycelyn yn adnabyddus am ei chôr llwyddiannus, a welir yn cystadlu’n frwd yn Eisteddfod yr Urdd ac yn brwydro am deitl Côr Cymru. Cynigir cyfleoedd hefyd i glocsio, dawnsio gwerin a llefaru, a chyda hynny, ddigon o gymdeithasu! Os yw llenyddiaeth yn mynd â dy fryd, gelli ymuno â Chymdeithas Taliesin neu fod ar dîm golygyddol papur newydd Yr Heriwr.
Mae gan y Brifysgol neuadd Gymraeg, sef Neuadd Pantycelyn, a cheir blociau penodedig Gymraeg yn rhan o lety newydd sbon ar Fferm Pen-glais.
Mae cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Gellid galw i mewn i’n swyddfeydd ar y prif gampws gydag unrhyw ymholiadau. Mae aelodau’r gangen, yn staff ac yn fyfyrwyr, yn cyfarfod yn rheolaidd mewn pwyllgorau sy’n llywio datblygiadau pellach yn y ddarpariaeth Gymraeg, ac yn cyfarfod hefyd mewn digwyddiadau llai ffurfiol fel cwisiau a gigs.
O ran yr addysgu, mae gan y gangen ofod dysgu newydd ar y prif gampws, a neilltuir yn arbennig ar gyfer astudiaethau cyfrwng Cymraeg. O Amaeth i Astudiaethau Plentyndod ac o Wleidyddiaeth i Ffiseg, ceir llu o gyfleoedd i ymgymryd ag astudiaethau cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cynigir Prif Ysgoloriaethau’r Coleg ar gyfer dros gant o’n cyrsiau israddedig.
Am fwy o wybodaeth am waith y Gangen cysyllta gyda colegcymraeg@aber.ac.uk / @cangenaber