Swyddog Cangen: Elliw Iwan
Daw Prifysgol Caerdydd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol â’r myfyrwyr Cymraeg (yn siaradwyr mamiaith a dysgwyr) ynghyd drwy amryw o weithgareddau.
Un o’r pethau cyntaf y byddi’n ei wneud yn ystod dy ddyddiau cyntaf yn y Brifysgol fydd ymuno â’r ‘GymGym’ (y Gymdeithas Gymraeg). Bydd y gymdeithas yn cynnig cyfleoedd i ti gymdeithasu drwy ddigwyddiadau cyffrous, gan gynnwys yr Eisteddfod Ryng-golegol flynyddol a gwibdeithiau rygbi. Mae cangen y Coleg yn gweithio’n agos gyda’r ‘GymGym’ ac wedi trefnu ambell gig ar gyfer wythnos y glas ar y cyd â changhennau prifysgolion de Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Mae’r gangen yn flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol, a rhoddir cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn cyfarfodydd academaidd er mwyn lleisio barn ar y ddarpariaeth honno.
Mae Prifysgol Caerdydd yn denu nifer helaeth o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith o bob cwr o Gymru. Mae bywyd y brifddinas yn siŵr o apelio, yn ogystal â’r dewis eang o gyrsiau sy’n unigryw i’r Brifysgol, yn enwedig ym maes Iechyd. Ymysg ystod eang iawn o bynciau, arbeniga’r Brifysgol yn ei chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Newyddiaduraeth, ac mae’r Cymry’n heidio yma i’w hastudio. Ceir ynghlwm â’r pynciau hyn gynlluniau diweddar i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Ynghyd â’r ‘GymGym’, ceir sawl cymdeithas arall, gan gynnwys Cymdeithas Myfyrwyr Cymraeg yr Ysgol Feddygaeth ac Aelwyd y Waun Ddyfal. Yr aelwyd hon yw un o’r mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ac mae’n cyrraedd y brig dro ar ôl tro yn y byd eisteddfodol mewn cystadlaethau corawl o bob math.
Os byddi di’n dymuno cyd-fyw â myfyrwyr Cymraeg eraill, neilltuir fflatiau yn Llys Senghennydd a Gogledd Tal-y-bont ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Cysyllta â changen Prifysgol Caerdydd am ragor o wybodaeth: Caerdydd@colegcymraeg.ac.uk / @cangen_caerdydd