Dan nawdd y Coleg, ceir gofodau dysgu yn chwech o’r prifysgolion – Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r gofodau hyn yn ystafelloedd pwrpasol a neilltuir ar gyfer dysgu a gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg ac fe’u crëwyd yn benodol at ddefnydd darlithwyr a myfyrwyr y Coleg. Fe’u defnyddir ar gyfer darlithoedd drwy gyswllt fideo, gan gysylltu myfyrwyr sy’n astudio yr un pynciau neu bynciau cysylltiedig mewn prifysgolion ledled Cymru, ac ar gyfer cipio darlithoedd i’w gosod ar lwyfan e-ddysgu'r Porth Adnoddau.