Rydym yn chwilio am stiwdants brwdfrydig boed yn Gymraeg ail iaith neu iaith gyntaf, i rannu eu profiadau o’u prifysgolion dros Gymru gyfan, o’r astudio a phwysigrwydd y Gymraeg, i’r cymdeithasu! Beth am ddenu mwy i astudio yng Nghymru? Rydym yma hefyd i’ch cefnogi chi er mwyn datblygu sgiliau gwerthfawr fydd o fudd wrth chwilio am waith yn y dyfodol, yn ogystal â chael eich gweld ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Mae bod yn llysgennad a llais dros fyfyrwyr Cymru yn rôl bwysig a gwerthfawr, a gallai roi boddhad mawr wrth gynorthwyo darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â chyfrwng iaith eu hastudiaethau addysg uwch.
Mae'r disgrifiad swydd i'w gweld isod.
Rhaid llenwi ffurflen gais a gyrru fideo yn esbonio mwy amdanoch chi a pham yr hoffech fod yn llysgennad (dim mwy na munud o hyd) er mwyn i'r cais gael ei ystyried. Dylid anfon y fideo at Elliw Baines Roberts drwy Whats App i 07891 544 363. Ni fydd cais heb fideo yn cael ei ystyried.
I ymgeisio cliciwch ar y ddolen yma.
Dyddiad cau ceisiadau yw Dydd Gwener 20 Ionawr 2023
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch gyda Elliw ar e.roberts@colegcymraeg.ac.uk