Elen Davies

Prifysgol Caerdydd: Cymraeg a Newyddiaduraeth

Elen Davies

Prifysgol Caerdydd: Cymraeg a Newyddiaduraeth

Dod yn wreiddiol: Pencader

Ysgol/Coleg: Ysgol Dyffryn Teifi

Prifysgol: Caerdydd

Blwyddyn: 1

Cwrs prifysgol: Cymraeg a Newyddiaduraeth

Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Rwyf wrth fy modd gyda llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol ynghyd â chwrdd â phobl newydd, a phan welais fod cwrs newyddiaduraeth a Chymraeg ar gael gwelais fod hwn yn gwrs delfrydol gan ei fod yn cynnig pob un o’r opsiynau yma.

Pam dewis astudio trwy'r Gymraeg: Rwy’n byw bob dydd yn Gymraeg, ac felly pa beth gwell nag astudio fy nghwrs prifysgol trwy'r Gymraeg. Clywais hefyd fod yna alw am newyddiadurwyr Cymraeg ac wrth ystyried pa mor gystadleuol yw swyddi heddiw, meddyliais y byddai’r ffaith fod gen i sgiliau Cymraeg o fudd i mi.

Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs trwy'r Gymraeg: Y peth gorau ydi cael cyflwyno gwaith yn fy iaith naturiol, heb orfod poeni yn ormodol am gyfieithu popeth o hyd. Yn ogystal â hyn, mae cael rhannu dosbarth gyda Chymry Cymraeg yn braf ac mae’r ffaith y byddaf yn gwella fy sgiliau Cymraeg hefyd yn fonws wrth ystyried swyddi yng Nghymru.

Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio trwy'r Gymraeg: Ewch amdani! Mae digon o gymorth ar gael, a bydd gyda chi sgil na fydd gan lawer o fyfyrwyr eraill. Byddwch yn dod yn fwy hyderus yn y Gymraeg hefyd gan gwrdd â phobl sy’n rhannu’r un brwdfrydedd â chi tuag at yr iaith!

A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg: Byddwn i yn bendant yn annog eraill i ymgeisio am yr ysgoloriaeth. Mae’r arian yn gymaint o help yn enwedig i brynu llyfrau a deunyddiau dysgu, ac wrth gwrs yn help ar gyfer joio bywyd cymdeithasol y brifysgol. Mae’r ffurflen gais ond yn cymryd ychydig funudau i’w lenwi, ond gall yr ychydig funudau yna wneud newid mawr i’ch bywyd prifysgol chi. Mae’r arian yn gymaint o help ymhob ffordd, a’r cyfan sydd rhaid i chi wneud yw astudio drwy’r Gymraeg. Cael arian am astudio yn eich iaith naturiol, pa mor grêt ydy hynny?

Pam ymgeisio i fod yn llysgennad: Fe wnes i ymgeisio i fod yn llysgennad er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Heb y Coleg Cymraeg ni fyddwn i yn medru gwneud fy nghwrs trwy'r Gymraeg, ac ni fyddwn chwaith wedi derbyn ysgoloriaeth sydd yn gymaint o gymorth i mi. Rwyf felly eisiau dangos fy ngwerthfawrogiad trwy annog eraill i ymgeisio ac i werthfawrogi gwaith y Coleg Cymraeg. Fel llysgennad rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd ar draws Cymru a rhoi gwybodaeth iddynt am waith y Coleg. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at rannu fy syniadau ynglŷn â’r Gymraeg, a gweld y Coleg Cymraeg yn datblygu. Heb anghofio, derbyn hoodie hollol ffab!

Beth da chi’n fwynhau fwyaf am fod mewn prifysgol yng Nghymru: Y gymdeithas Gymraeg clos sydd yma. Mae’r Gym Gym yn cwrdd yn wythnosol gyda llu o ddigwyddiadau difyr yn y Gymraeg, ynghyd â chôr y Waun Ddyfal. Mae pawb fel un teulu mawr, ac mae’r teimlad yna o berthyn i gymuned Cymraeg clos yn wych!

Diddordebau hamdden: Mynd i’r clwb ffermwyr ifanc! Er bod neb yng Nghaerdydd yn rhannu’r un brwdfrydedd, siom!

Hoff bethau: Actio, canu, canu’r piano ac ysgrifennu creadigol.

Cas bethau: Cig oen, ravioli, adar a golchi llestri!

Hoff raglen / ffilm Gymraeg: www anodd! Er mai fi yw no.1 fan Pobol y Cwm, mae Gwaith Cartref yn wych! Ond... ble yn y byd mae Louise?!

Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch: Os ydych chi’n gyfarwydd â Miranda Hart, meddyliwch am fersiwn Gymraeg ohoni, a dyna wyf fi! Brwdfrydig, lletchwith a dwl!

Beth oedd y peth gorau am fod yn llysgennad: Rwyf wir wedi mwynhau bob eiliad o fod yn llysgennad! Doeddwn i wir ddim yn disgwyl profiadau tebyg i'r rhai yr wyf wedi eu derbyn pan ymgeisiais am y rôl. Fel rhywun sydd â diddordeb ym maes newyddiaduraeth, rwyf wedi cael cyfle i holi newyddiadurwyr proffesiynol, cael fy nghyfweld ar y radio a'r teledu yn ogystal â chael cyfle i greu gweithdy newyddiaduraeth fy hun! Rwyf wedi creu ffrindiau oes wrth fod yn llysgennad wrth weithio gyda llysgenhadon eraill mewn digwyddiadau gwahanol a hefyd wedi gweld tipyn o Gymru wrth wneud hynny.