Enw llawn: Dione Leigh Rose
Dod yn wreiddiol: Cwm Rhondda
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
Prifysgol: Prifysgol Metropolaidd Caerdydd
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Fy uchelgais yw bod yn athrawes addysg gorfforol o’r radd uchaf felly mae’r cwrs yma yn berffaith i mi.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Rydw i eisoes wedi derbyn fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly doeddwn i ddim yn gweld rheswm dilys i stopio nawr. Yn y dyfodol hoffwn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg felly mae’n fy ngosod mewn safle da i wneud hynny. Yn olaf, nid yw fy nheulu yn siarad Cymraeg gartref ac nid oeddwn am beryglu fy ngallu i siarad Cymraeg yn rhugl trwy leihau pa mor aml rydw i’n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.
Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy'r Gymraeg?
Bod dim llawer o wahaniaeth mewn prifysgol ac ysgol uwchradd. Hynny yw, er bod gwersi yn wahanol (bod darlithoedd a seminarau nawr yn hytrach na gwersi ysgol arferol) mae niferoedd yn y dosbarth yn fach iawn felly wrth godi cwestiynau a gorfod ateb cwestiynau, nid oes angen bod mor swil. Mantais arall niferoedd bach yn y dosbarthiadau, yw bod y darlithwyr yn dueddol o ddod i’n hadnabod fel unigolion gan nad yw hyn yn digwydd ymysg y darlithwyr a’r myfyrwyr Saesneg.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio trwy'r Gymraeg?
Peidio poeni! Mae astudio yn y brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod yn fanteisiol iawn wrth edrych am swydd yn y dyfodol, yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i ennill ysgoloriaeth fel nes i.
A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Yn bendant! Roeddwn i’n ffodus iawn i dderbyn y brif ysgoloriaeth sef £1,000 y flwyddyn dros gyfnod o 3 blynedd ac mae’n help enfawr gyda chyllidebu. Bydd hwn hefyd yn rhoi argraff gwych i gyflogwyr yn y dyfodol.
Pam ymgeisio I fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Rydw i’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiadau gydag oedolion ifanc eraill sy’n gallu cael budd o astudio trwy’r Gymraeg, fel yr ydw i. Rydw i hefyd wedi clywed bod yr Eisteddfod yn llawer o hwyl felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fynd am y tro cyntaf!
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Y peth gorau yw'r cyfle i astudio trwy’r Gymraeg! Rydw i hefyd wedi penderfynu byw gartref yn y flwyddyn gyntaf gan fy mod yn byw ddigon agos, a bod dim angen i mi wario cymaint o arian ar lety. Na, cover-up yw hynny, y gwir yw rydw i’n rhy gyfforddus gartref a ddim yn fodlon gadael y nyth eto!
Diddordebau hamdden?
Chwarae pêl-rwyd, hyfforddi clybiau chwaraeon a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu (dros bryd o fwyd yw’r gorau) ha!
Hoff bethau?
Mynd ar wyliau tramor a chael cyfrif banc iachus!
Cas bethau?
Bwyd y môr.. ych!!
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Jonathan
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch:
Llwyddais i gyrraedd y rownd derfynol i ennill teitl ‘Miss Cymru 2016’ ac rwyf hefyd wedi cystadlu dros Gymru yn America fel rhan o’r tîm cheerleading cenedlaethol.