Enw llawn: Elin Hâf Rosser
Dod yn wreiddiol: Caerdydd
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Prifysgol: Aberystwyth
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: Daearyddiaeth Dynol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Daearyddiaeth oedd fy hoff pwnc trwy gydol yr ysgol, ond hefyd mae gen i ddiddordeb enfawr mewn gwleidyddiaeth. Felly, pan wnes i sylweddoli bod yna gwrs a oedd yn fy ngalluogi i astudio’r ddau, roedd yn berffaith.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Gan fy mod yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac mai drwy’r Gymraeg yr astudiais yn yr ysgol, dyna oedd y cam nesaf naturiol i mi am fy mod i’n teimlo’n fwy cyfforddus yn astudio drwy’r Gymraeg.
Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy'r Gymraeg?
Mae’r grwpiau Cymraeg yn llai ac o ganlyniad rydych chi’n derbyn mwy o gymorth gan y darlithwyr. Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn fanteisiol gan ei fod yn eich galluogi i wella eich sgiliau iaith yn y Gymraeg.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio drwy'r Gymraeg?
Byddwn i ddim yn poeni am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg o gwbl. Dwi’n hapus iawn fy mod wedi dewis astudio yn y Gymraeg gan ei fod yn dod yn naturiol i mi ac mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn helpu hefyd, mae’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg heb ei ail.
A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Wrth gwrs! Mae’r ysgoloriaeth yn gymorth mawr drwy gydol eich amser yn y brifysgol.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf wrth fod yn llysgennad?
Dyma siawns i gwrdd â phobl newydd ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd mae’n ffordd o allu ychwanegu sgil newydd at fy CV a chael profiadau newydd. Yn bwysicaf oll, dyma gyfle i rannu fy mhrofiadau positif iawn o fod yn aelod o’r Coleg Cymraeg!
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Roedd yn bwysig i mi allu mynd i’r brifysgol yng Nghymru gan ei fod yn fy ngalluogi i ddefnyddio’r Gymraeg bod dydd ond hefyd i allu cwrdd â phobl o bob cwr o’r wlad a thu hwnt!
Diddordebau hamdden?
Treulio amser gyda fy ffrindiau a theithio.
Hoff bethau?
Nygets cyw iâr a cerddoriaeth.
Cas bethau?
Pryfed
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Y Gwyll
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Rwy wedi reidio ar gefn eliffant yng Ngwlad Thai …