Enw llawn: Teleri Anwen Wilson
Dod yn wreiddiol: Cwm Gwaun, Sir Benfro
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol y Preseli
Prifysgol: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: BA Addysg Gynradd gyda SAC
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Ers treulio rhai wythnosau ar brofiad gwaith mewn ysgol yn ystod blwyddyn 10 a 12, roeddwn i’n sicr fy mod am weithio gyda phlant a hyfforddi i fod yn athrawes.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Roedd parhau i astudio yn y Gymraeg yn gam naturiol i mi. Rwyf wedi derbyn fy holl addysg yn y Gymraeg ac felly roeddwn am barhau i astudio cwrs yn fy iaith gyntaf ac i fanteisio ar fy ngallu i siarad Cymraeg.
Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy'r Gymraeg?
Mae cwblhau gwaith yn fy iaith gyntaf heb gorfod poeni am gyfieithu unrhyw ddarn o waith yn rhyddhad anferthol. Mae siarad Cymraeg gyda phawb bob dydd mewn darlithoedd yn wych hefyd.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio drwy'r Gymraeg?
Does dim angen poeni o gwbl. Mae digon o gymorth ar gael i’ch cynorthwyo ac mae pawb yn falch o weld pobl yn mynd ati i ddatblygu eu hiaith ymhellach.
A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Fe fyddem 100% yn annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth. Mi fuais i’n ddigon ffodus i dderbyn ysgoloriaeth ac roedd y broses ymgeisio mor hawdd. Mae’r arian hefyd yn gymorth anferthol wrth brynu adnoddau a all gyfoethogi llawer ar y profiad o ddysgu, ac mae arian ychwanegol wastad yn help yn y brifysgol.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Fe wnes i ymgeisio gan fy mod yn hynod o ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am y fraint o ennill ysgoloriaeth William Salesbury ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr eraill er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg mewn prifysgolion i ddarpar fyfyrwyr.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Mae’r gymuned glòs a’r teimlad o berthyn yn wych. Rwyf wedi dod i adnabod cynifer o bobl mewn cyfnod mor fyr ac mae nosweithiau’r Gymdeithas Gymraeg yn hollol wych ac yn llawn sbort.
Diddordebau hamdden?
Siopa, canu mewn côr a chystadlu gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc
Hoff bethau?
Canu’r piano a chymdeithasu gyda ffrindiau
Cas bethau?
Ffilmiau arswyd, llygod a Bwyd môr
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Pobol y Cwm
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Rwyf wedi llwyddo yn fy arholiad gradd 8 ar y piano