Prifysgol Abertawe (Cymraeg a Hanes)
Dod yn wreiddiol: Pontiets, Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin
Ysgol/Coleg ar gyfer Lefel A: Maes Y Gwendraeth
Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Mae’r ddau bwnc wedi bod o ddiddordeb i mi ers oedran ifanc. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod ohonai a dwi’n ymddiddori yn bob math o hanes yn enwedig hanes Cymru.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg: Dyma fy mamiaith, dyma’r iaith dwi’n defnyddio rhan fwyaf o’r amser felly roedd yn benderfyniad naturiol i’w wneud wrth ymgeisio i astudio yn y brifysgol.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs trwy’r Gymraeg: Rydych yn dod i adnabod myfyrwyr eraill sy’n teimlo’n angerddol neu'r rhu’n fath a chi am yr iaith Gymraeg.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg: Nid oes angen poeni o gwbl. Yn fy mhrofiad personol i mae digon o gefnogaeth ar gael er mwyn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham? Fe fydden yn awgrymu ymgeisio ar gyfer ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oherwydd bod bob ceiniog yn helpu amser chi’n fyfyriwr yn y brifysgol.
Pam wnaethoch ymgeisio am fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato ar gyfer bod yn llysgennad: Gwnes i fwynhau fy rôl fel llysgennad ysgol i’r Coleg Cymraeg llynedd yn fawr iawn! Dwi’n edrych ymlaen at ysgrifennu blogiau a rhannu fy mhrofiad yn y brifysgol gydag eraill.
Beth da chi’n mwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol (yng Nghymru): Dwi’n mwynhau’r cwrs yn fawr iawn! Mae lleoliad y brifysgol yn anhygoel enwedig wrth edrych ar yr olygfa odidog yn Mwmbwls.
Diddordebau: cerdded, coginio, darllen, canu
Hoff bethau: Fod tu allan yn yr awyr agored wrth fynd ar ci am dro
Cas bethau: Pobl yn bwyta popcorn yn swnllyd yn y sinema
Hoff raglen/ffilm Gymraeg: Am Dro
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch: Dwi wedi cwblhau fy wobr Dug Caeredin – Efydd, Arian ac Aur
Dyfyniad gorau: (unrhyw iaith): “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo.” – Saunders Lewis.