Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi 17 o lysgenhadon ysgol eleni mewn 9 ysgol uwchradd ar draws Cymru er mwyn helpu i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg.
Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd codi ymwybyddiaeth o fanteision addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ymhlith eu cyd-ddisgyblion. Byddant yn eu hannog i ymaelodi â’r Coleg, ymgeisio am yr ysgoloriaethau, bod yn rhagweithiol ar ein cyfryngau cymdeithasol a rhannu negeseuon pwysig gan y Coleg.
Dyma lysgenhadon ysgol 2021-22:
Erin Wyn Davies - Ysgol Bro Teifi
Hanna Morgans - Ysgol Bro Teifi
Tesni Hughes - Ysgol David Hughes
Elin Hâf Rowlands - Ysgol David Hughes
Mari Elliw Morgan - Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Ffion Phillips - Ysgol Dyffryn Conwy
Hanna Seirian Evans - Ysgol Dyffryn Conwy
Gwenlli Haf Rowlands - Ysgol Dyffryn Conwy
Garan Thomas - Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Reagan McVeigh - Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Jack Thomas - Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Mirain Owen - Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Loti Glyn - Ysgol Gyfun Gwynllyw
Lleucu Haf Wiliam - Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Gwenno Mair Roberts - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Lloyd Jenkins - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Catrin Sian Rees - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
I wybod mwy amdanyn nhw ac i ddilyn y cynllun dilynwch ni ar ein gwefannau cymdeithasol @dyddyfodoldi @colegcymraeg #llysgenhadonysgol