BETH YW'R DYSTYSGRIF SGILIAU IAITH?
Mae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif.
I ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy’n cynnwys tair tasg. Bydd y cyflwyniadau llafar yn digwydd ar-lein cyn canol mis Mawrth 2023 ar ddyddiadau a bennir gan diwtoriaid sgiliau iaith y prifysgolion. Cynhelir y prawf ysgrifenedig ar y 03 Mai 2023 ar gyfrifiadur. Does dim modd newid dyddiad y prawf ysgrifenedig.
Mae’r Dystysgrif yn agored i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio mewn prifysgol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y Dystysgrif am y tro cyntaf yn 2013, ac erbyn hyn mae dros 2000 o fyfyrwyr wedi ei chyflawni.