Pam astudio drwy'r Gymraeg?
Erbyn heddiw, mae myfyrwyr yn gallu astudio tua 1,000 o gyrsiau yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae modd astudio meysydd mor amrywiol â Meddygaeth, Newyddiaduraeth, Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg
Ceir nifer o fanteision dros ddewis astudio cwrs prifysgol yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg:
- Arian ychwanegol
- Grwpiau llai
- Perthynas well gyda darlithwyr a chyd-fyfyrwyr
- Cyfle i ddatblygu terminoleg ddwyieithog mewn maes arbenigol
- Datblygu sgiliau dwyieithog a fydd o fantais wrth chwilio am swydd
- Cyfle i astudio tuag at Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg.