Mae swyddogion lleoliadau gwaith y Coleg yn trefnu’r lleoliadau ar gyfer myfyrwyr. Mae gan ein swyddogion gysylltiadau gyda thros 100 o gyflogwyr, ac ânt ati i drefnu lleoliad ar ôl ymgynghori â’r myfyrwyr yn unigol.
Mae ein swyddogion yn cysylltu â phawb sydd wedi derbyn ysgoloriaeth (prif/cymhelliant) yn ystod ail flwyddyn eu cwrs gradd er mwyn ymgynghori ynghylch y lleoliad ynghyd â’u gwahodd i weithdy profiad gwaith.
Mae’r gweithdy’n gyfle gwych i ddysgu rhagor am y cynllun a’r cyfleoedd sydd ar gael. Yn ystod y gweithdy, bydd arbenigwyr ym maes cyflogadwyedd yn cynnig cymorth o ran pwysigrwydd CV effeithiol ac o ran sut mae llwyddo yn y byd gwaith.
Gwneud cais am brofiad gwaith
Mae’r swyddogion yn sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn ‘Ffurflen Gais Profiad Gwaith’. Ar ôl i’r myfyriwr gwblhau a dychwelyd y ffurflen, cynhelir proses o ymgynghori rhwng y myfyriwr a’r swyddog profiad gwaith er mwyn trefnu lleoliad sy’n unol â diddordebau a dyheadau gyrfa’r myfyriwr. Bydd y gwaith trefnu’n dechrau ar ôl ymgynghori ynghylch dyddiadau addas (fel arfer dros gyfnod yr haf rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn).