Oes gen ti ddiddordeb mewn byd busnes? Wyt ti am sefydlu dy fusnes dy hun? Neu a wyt ti am ddilyn gyrfa yn gweithio i gwmnïau mewn pob math o feysydd amrywiol, o farchnata a gwerthu nwyddau i gwmnïau ariannol ac adnoddau dynol?
Mae astudio Busnes drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnig pob math o fanteision. Yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’r angen am sgiliau Cymraeg yn cryfhau, yn arbennig ym meysydd marchnata, adnoddau dynol a rheolaeth lle clywir mwyfwy o alw ar fusnesau i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy astudio rhan o dy gwrs yn y Gymraeg, byddi’n dysgu sut i drin a thrafod yn y ddwy iaith, a fydd yn gaffaeliad mawr i ti wrth ymgeisio am swyddi. Cei dy baratoi ar gyfer y byd gwaith wrth ddysgu nifer o sgiliau eraill yn ogystal, e.e. y gallu i gyfathrebu, i weithio mewn tîm, ynghyd â datrys problemau. At hynny, cei gyfle i gyfarfod â nifer o bobl busnes yn ogystal â threulio cyfnod ar brofiad gwaith.
I raddedigion Busnes, mae sawl gwahanol fath o yrfa’n bosib, gan gynnwys marchnata; rheoli digwyddiadau; rheoli adnoddau dynol; rheoli twristiaeth; rheoli gwestai a siopau; y gwasanaeth sifil; llywodraeth leol; cyfrifeg, neu hyd yn oed sefydlu busnes.
Gellir astudio cyrsiau Busnes a Rheolaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl prifysgol yng Nghymru. Mae prifysgolion Bangor, De Cymru, y Drindod Dewi Sant a Metropolitan Caerdydd yn cynnig o leiaf 40 credyd ym mhob blwyddyn drwy’r Gymraeg, tra bod rhywfaint o ddarpariaeth hefyd ar gael mewn prifysgolion eraill.