Wyt ti’n un sy’n hoffi dadansoddi a chodi cwestiynau? Wyt ti’n hoff o geisio gwneud synnwyr o wahanol elfennau, e.e. crefydd, cymdeithas a’r natur ddynol? Os wyt am fynd i’r afael â phynciau dyrys, ynghyd â dysgu sut i ddeall, dehongli a datblygu dadleuon o bob math, Athroniaeth yw’r pwnc i ti.
Prif hanfod Athroniaeth yw ymgymryd â cheisio deall a beirniadu’r rhesymau a thybiaethau sy’n wraidd i’n syniadau dyddiol. Wrth feithrin y gallu hwn, byddi hefyd yn dysgu sut i ymdrin â dadleuon a’u cyfleu mewn modd eglur a chywrain, a fydd o werth mawr i ti yn y byd gwaith. Mewn byd proffesiynol cynyddol gystadleuol, bydd y gallu i resymu, dadansoddi a meddwl yn graff yn dy godi ben ac ysgwydd uwchlaw dy gystadleuwyr am unrhyw swydd. At hynny, mae’r gallu i ymdrin a thrafod drwy gyfrwng y Gymraeg yn bluen ychwanegol yn dy het.
Gall astudio Athroniaeth dy baratoi ar gyfer sawl llwybr gyrfaol, boed hynny’n newyddiaduraeth; y cyfryngau; ffilm a theledu; y gwasanaeth sifil; y gyfraith; hysbysebu; marchnata; rheolaeth; addysgu ac ymchwil pellach, neu hyd yn oed yrfa mewn diwydiant.