Oes gen ti ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y byd chwaraeon? A hoffet weithio tuag at hybu iechyd corfforol yn y gymdeithas, neu addysgu a hyfforddi gweithgareddau awyr agored? Neu hwyrach i ti roi dy fryd ar weithio gyda phencampwyr olympaidd yn dadansoddi techneg a thactegau? Heb os, gall gradd mewn Chwaraeon gynnig cyfle i ti ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau ac arbenigedd a fydd yn dy baratoi ar gyfer gyrfa fyrlymus a chyffrous.
Wrth astudio rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, byddi’n meithrin y gallu i drin a thrafod Chwaraeon yn y ddwy iaith, a ddaw’n ddefnyddiol tu hwnt wrth i ti ymgeisio am swyddi yn yr hinsawdd gystadleuol sydd ohoni. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau ieithyddol Cymraeg yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru (yn enwedig ym maes hyfforddi, dysgu, cymorth gwyddonol a hyrwyddo), bydd dy sgiliau’n fanteisiol i gyflogwyr yn y meysydd hynny.
Gwelir nifer o fyfyrwyr sy’n derbyn gradd mewn Chwaraeon yn dilyn gyrfa nid yn unig fel hyfforddwyr, hyrwyddwyr iechyd a rheolwyr, ond mewn sawl maes arall hefyd lle mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn amhrisiadwy, gan gynnwys ffisioleg, gwyddoniaeth, seicoleg, addysgu a newyddiaduraeth.
Bydd modd i ti astudio’r meysydd canlynol drwy gyfrwng y Gymraeg:
- hyfforddi
- addysgu gweithgareddau awyr agored
- addysgu Addysg Gorfforol
- rheoli a datblygu chwaraeon
- Gwyddorau Chwaraeon
- Moeseg
- Seicoleg Chwaraeon
- iechyd ac ymarfer.