Os oes gen ti ddiddordeb ym mhroblemau a heriau’r gymdeithas (boed hynny’n ddelio â throseddwyr, datblygu polisi iechyd, magu plant, polisi tai neu gynlluniau ieithyddol), Gwyddor Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol yw’r cwrs i ti.
Yng Nghymru, mae galw am bobl a all fynd at wraidd problemau’r gymdeithas. Bydd astudio gradd neu fodiwlau Gwyddor Cymdeithas yn agor dy lygaid i’r gymdeithas yr ydym yn perthyn iddi, ynghyd â’r ffyrdd y gellir ei datblygu. Fel rhan o’r cwrs, fe fyddi’n archwilio polisïau’r system les, gofal, hybu iechyd, polisïau tai, ynghyd â’r system sicrhau cyfiawnder. Cei hefyd brofiadau gwerthfawr a heriol yn y maes gyda chyflogwyr fel y Llywodraeth, yr Heddlu a’r sector gwirfoddol.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn datblygu polisïau Cymreig unigryw ym maes Polisi Cymdeithasol a Iechyd, a rhoddir pwyslais cynyddol ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Golyga hyn fod galw am weithwyr sy’n deall cymdeithas Cymru ac a fedr weithio’n ddwyieithog ar lawr gwlad.
O dderbyn gradd mewn Gwyddor Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol, bydd modd i ti weithio mewn sawl maes amrywiol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, yr Heddlu a’r system gyfreithiol, y gwasanaeth iechyd a’r henoed, addysg a gofal plant, pobl ifanc ynghyd â datblygu’r iaith Gymraeg.