Mae gradd yn y Gyfraith yn droedle i sawl maes, nid yn unig i’r maes cyfreithiol. Gall arwain at redeg busnes, rheoli, personél, llywodraeth ganol neu leol, yr heddlu a newyddiaduraeth.
Os mai’r maes cyfreithiol sy’n mynd â dy fryd, gelli fynd ymlaen i arbenigo mewn maes penodol, fel cyfraith teulu, cyfraith droseddol a chyfraith y we. Mae’r galw am gyfreithwyr sy’n deall Cymru a’r Gymraeg yn cynyddu yn sgil y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn derbyn rhagor o bwerau, a’r Mesur Iaith yn rhoi hawliau ychwanegol i siaradwyr Cymraeg. Ar ôl graddio, gelli ymuno â chwmni cyfreithiol mawr neu fach, ac mae bod yn gyfreithiwr yn dy alluogi i weithio ym mhob math o ardal, boed wledig neu drefol. Gelli hefyd, maes o law, ddewis sefydlu dy fusnes cyfreithiol dy hun.
Gwelir twf cyffrous yn nifer y modiwlau Cymraeg sydd ar gael ym maes y Gyfraith. Cei gyfle, drwy eu hastudio, i wella dy sgiliau ieithyddol er mwyn gallu mynegi dy hun yn y ddwy iaith. Prif orchwyl y meddwl cyfreithiol yw rhoi trefn ar gymhlethdodau’r gymdeithas a’i phobl. Er mwyn adlewyrchu’r gymdeithas ddeinamig sydd ohoni, mae’r modiwlau Cyfraith yn y prifysgolion yn newid yn gyson. Enghreifftiau o rai modiwlau sydd ar gael yn y Gymraeg yw Cyfraith busnes, Ewrop, hawliau dynol a pholisi cymdeithasol.
Mae’n amser cyffrous yng Nghymru, ac mae Manon George – sy’n gwneud gwaith ymchwil i Gyfraith datganoli yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd – yn dyst i’r cyffro hwnnw gan ei fod yn faes sy’n prysur newid ac a fydd yn effeithio ar bawb yng Nghymru. A hithau bellach yn ddarlithydd yn y Gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r sgiliau sydd ganddi i allu gweithio yn y ddwy iaith yn ddeniadol i’w chyflogwyr.