Iechyd

Iechyd

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae nyrsio’n yrfa gyffrous a heriol sy’n gofyn am nifer o rinweddau: ymrwymiad, sgiliau pobl, amynedd a dealltwriaeth (ynghyd â synnwyr digrifwch!). Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau cleifion. Mae swyddogaeth y nyrs yn eang iawn, ac mae rhoi cymorth tyner trwy adegau anodd yn allweddol.

Cynigir cyrsiau Nyrsio mewn pedwar maes yng Nghymru, sef nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl, nyrsio plant a phobl ifanc ynghyd â nyrsio anabledd dysgu. Pa bynnag faes yr wyt ti am ei astudio, mae’n hanfodol dy fod yn dysgu sut i ymdrin ag anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol pob claf gyda pharch ac urddas. 

Rhennir pob cwrs yn gyfartal rhwng theori a gwaith clinigol, sy’n golygu y caiff pob darn o waith sydd dan oruchwyliaeth yn y maes clinigol ei gefnogi gan astudiaethau academaidd. Byddi di’n ymgymryd â nifer o leoliadau gwaith clinigol ac yn derbyn cefnogaeth mentor clinigol yn y gweithle. Cei gyfle i feithrin sgiliau clinigol mewn ysbytai ac yn y gymuned, yn y sector iechyd ac mewn sefydliadau sector annibynnol, lle y cei ymdrin ag amrywiaeth eang o broblemau neu anghenion iechyd ymysg cleifion o bob math o gefndiroedd diwylliannol ac ieithyddol. Hefyd, cei gyfle i ddysgu ac ymarfer amryw o sgiliau clinigol mewn ystafelloedd efelychu, a fydd yn cefnogi’r gwaith dysgu ac yn dy baratoi ar gyfer lleoliadau ac ymarfer clinigol. 

Os wyt ti am astudio Bydwreigiaeth, byddi di’n astudio’r canlynol fel rhan o’r cwrs:

  • Anatomeg a Ffisioleg
  • gofal cyn cenhedlu
  • astudiaeth fanwl o ofal cyn geni
  • gofal wrth esgor
  • gofal ôl-enedigol
  • iechyd y cyhoedd
  • iechyd rhywiol
  • atal cenhedlu 
  • astudiaeth fanwl o fabanod newydd-anedig.

Dilyswyd yr holl gyrsiau hyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Ar ôl graddio, cei gofrestru fel nyrs gyda’r corff hwnnw.  

Dysgu Mwy

Therapi Iaith a Lleferydd

Mae therapyddion iaith a lleferydd yn darparu triniaeth a chefnogaeth ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anawsterau cyfathrebu neu broblemau bwyta, yfed a llyncu. Dyma driniaeth a all weddnewid bywydau.  Maent yn weithwyr proffesiynol sy’n perthyn i’r maes iechyd ac yn gweithio’n agos gyda rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol eraill fel athrawon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a meddygon.

Bydd y cwrs hwn yn dy alluogi i gael y cymwysterau sydd eu hangen er mwyn ymuno â’r proffesiwn cyffrous hwn.  Mae’r cwrs yn gyfuniad o waith academaidd a gwaith ymarferol.  Mae datblygu’r gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol at arsylwadau ac ymarferiadau clinigol yn hollbwysig wrth hyfforddi i fod yn therapydd iaith a lleferydd.

Ceir cwricwlwm eang gyda’r meysydd craidd canlynol yn rhan o’r cwrs:

  • Ieithyddiaeth
  • Ffoneteg
  • Gwyddorau biolegol
  • Seicoleg
  • Patholeg iaith a lleferydd

Er mwyn sicrhau y gall unigolion Cymraeg eu hiaith sydd ag anawsterau cyfathrebu gael mynediad at driniaeth yn y Gymraeg, mae’n hanfodol y denir myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg at y proffesiwn.

Fel yr unig gwrs yng Nghymru, cynigir darpariaeth arloesol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n sicrhau amrywiaeth o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol, cefnogaeth fugeiliol, ynghyd â’r cyfle i gwblhau prosiect ymchwil yn seiliedig ar y Gymraeg os byddi di’n dymuno. Mae lleoliadau clinigol yn rhan annatod o’r cwrs, a chynigir profiadau amrywiol mewn clinigau, ysbytai, ysgolion a chanolfannau arbenigol ledled Cymru. Rhoddir cyfle i’r myfyrwyr gwblhau cyfnodau ar leoliad drwy gyfrwng y Gymraeg pan fo hynny’n bosibl.

Trwy astudio rhannau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, cei gyfle i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Bydd hyn yn sicrhau bod y graddedigion sy’n ymuno â’r proffesiwn yn gallu cynnig gofal o’r ansawdd gorau trwy gyfathrebu ym mha bynnag iaith sydd fwyaf addas ar gyfer y sefyllfa. Bydd cyfle i drin a thrafod y ffactorau sy’n bwysig wrth ymgymryd â gwaith clinigol gyda phoblogaeth ddwyieithog, ynghyd â’r hyn sy’n wahanol i therapydd sy’n gweithio yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU. Bydd gennyt fewnwelediad unigryw i sefyllfaoedd dwyieithog eraill o fewn y DU a nifer fawr o wledydd eraill, sy’n rhan o dirwedd fyd-eang y proffesiwn.

Dysgu Mwy

Fferylliaeth

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Ysgol Fferylliaeth ac Astudiaethau Fferyllol Prifysgol Caerdydd yn gweithio tuag at gryfhau gwasanaethau fferyllol Cymraeg yng Nghymru. Mae parhau i ehangu a datblygu’r ddarpariaeth hon nid yn unig yn hanfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth fferyllwyr y dyfodol am bwysigrwydd y Gymraeg yn y maes iechyd yng Nghymru, ond hefyd er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen yn cwrdd ag anghenion gofal siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd neu ofalwyr.

“Gofalu am bobl fel unigolion yw diben y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol… Rhaid i hunaniaeth ddiwylliannol pobl a’u hanghenion ieithyddol fod wrth wraidd hyn oherwydd mae’n rhan hanfodol o ofal o ansawdd da a safonau proffesiynol uchel.”

Mwy na geiriau – Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.

Prif ffocws maes Fferylliaeth yw anghenion y cleifion, a llunnir y radd er mwyn adlewyrchu hyn. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys pynciau gwyddonol craidd a therapiwteg a ymgyfunir ag ymarferion clinigol. Defnyddir ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.

Yn ystod y cwrs, bydd yr hyn a fyddi di’n ei ddysgu’n cael ei roi ar waith ar leoliad; yn y gymuned, yr ysbyty ac mewn nifer o leoliadau eraill. Mae’r cyfle hwn i gyfathrebu a rhyngweithio â chleifion a phroffesiynau gwahanol yn rhan hanfodol o’r dysgu, ac yn adlewyrchu’r proffesiwn a’r hyn sy’n ofynnol ohono. Cei gyfle i gwblhau’r cyfnodau ar leoliad drwy gyfrwng y Gymraeg pan fydd hynny’n bosibl. 

Fel darpar fferyllydd, bydd y cyfle i astudio elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol iawn. Mae’r gallu i weithredu’n broffesiynol yn gwbl ddwyieithog nid yn unig yn gwella posibiliadau gyrfa, ond hefyd yn ateb gofynion y gwasanaeth iechyd trwy sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth orau bosibl.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, cynigir gradd MPharm bedair blynedd. Mae’r radd wedi’i hachredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol fel llwybr dilys ar gyfer mynediad i’r proffesiwn. Mae’r Ysgol Fferylliaeth heb os yn un o’r goreuon yn y DU ac yn gyson ar y brig neu’n agos at frig tablau cenedlaethol. Felly, mae gradd academaidd dda ac enw da'r ysgol yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn boblogaidd iawn ymysg cyflogwyr.

Dysgu Mwy

Meddygaeth

Mae’r ddarpariaeth a’r datblygiadau ym maes addysg Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn gweithio tuag at ddenu, hyfforddi a chadw meddygon da yng Nghymru. Mae sicrhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg ym maes gofal iechyd yn rhan hollbwysig o addysg feddygol pob myfyriwr wrth iddynt ddysgu am y gwahaniaethau rhwng bod yn feddyg yng Nghymru a gweddill y DU.

Yn ôl strategaeth Llywodraeth Cymru, Mwy na Geiriau (2012):

“Mae’n bwysig cydnabod mai dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o bobl gyfathrebu eu hangen am ofal yn effeithiol” (Mwy na Geiriau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2012).

Mae datblygu ac ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio ac ymarfer Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan annatod o wella ansawdd gofal iechyd yng Nghymru, ac i Gymry Cymraeg eu hiaith yn benodol. Mae’r cwricwlwm meddygol yn gyfuniad o addysgu gwybodaeth graidd ynghyd â chael amrywiaeth o brofiadau clinigol, a defnyddir ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys tiwtorialau, darlithoedd a sesiynau ymarferol. 

Prif hanfod gradd mewn Meddygaeth yw bodloni anghenion y claf. Mae’r cyfle i gyfathrebu a rhyngweithio gyda chleifion ar leoliadau clinigol yn rhan annatod o’r cwrs, a chynigir profiadau amrywiol mewn ysbytai, canolfannau meddygol cymunedol a meddygfeydd ledled Cymru. Rhoddir cyfle i’r myfyrwyr gwblhau’r cyfnodau ar leoliad drwy gyfrwng y Gymraeg pan fo hynny’n bosibl.

I’r darpar feddyg, mae astudio Meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol wrth baratoi tuag at y gweithle. Yng nghyd-destun y proffesiwn meddygol, mae’r Gymraeg yn rhan o ddarlun bydol ehangach, lle mae ymwybyddiaeth o anghenion ieithyddol cleifion yn rhan o’r her ddyddiol. Yng ngolau hynny, paratoir y meddyg Cymraeg ei iaith – a all gyfathrebu â chleifion yn gwbl ddwyieithog – tuag at sialensiau byd-eang y proffesiwn.

Ym Mhrifysgol Abertawe, cynigir cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Croesewir ceisiadau gan raddedigion o bob pwnc sydd wedi llwyddo yn y prawf GAMSAT (Graduate Medical School Admissions Test). Mae’n gwrs a gwtogwyd i bedair blynedd yn lle’r pum mlynedd arferol, ac fel rhan o’r cynllun, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddilyn elfennau o’u cwrs mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru, gyda’r gobaith o annog meddygon i weithio yn yr ardaloedd hynny yn y dyfodol.

Dysgu Mwy

Gwyddorau Iechyd

Mae gan Gymru rai o’r ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd mwyaf poblogaidd yn y DU, sy’n cynnig dewis o raddau a thystysgrifau addysg uwch o’r safon uchaf. At hynny, mae’r cyfleoedd ymchwil a chlinigol a gynigir ymhlith y gorau yn y byd.  

Fel gweithiwr iechyd, rhan fawr o dy waith fydd cyfathrebu â’r cyhoedd a chyd-weithwyr. Trwy astudio rhan o dy gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd gennyt gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu er mwyn dy alluogi i weithio’n ddwyieithog, a fydd yn ychwanegu at dy gyfleoedd yn y gweithle ac yn rhoi cyfle i gleifion gael eu trin drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno hynny. 

Ceir dewis eang o bynciau i’w hastudio yn y brifysgol, sef: 

  • ffisiotherapi 
  • therapi galwedigaethol 
  • therapi lleferydd 
  • ymarfer gofal llawdriniaethol (operating department practice) 
  • dieteg
  • radiograffeg diagnostig 
  • radiotherapi ac oncoleg.  

Yn ystod dy astudiaethau, rhoddir cyfle i ti gael blas ar ddulliau addysgiadol diddorol, e.e. dysgu trwy drafod a datrys achosion clinigol (Problem Based Learing: PBL). Fe gei gyfle hefyd i ddysgu mewn ‘labordai efelychiadol’, sy’n ail-greu awyrgylch clinigau a wardiau ysbyty yn ogystal ag adrannau gofal dwys a llawfeddygaeth. Cynhelir darlithoedd a thiwtorialau ar gyfer yr holl bynciau iechyd fel rhan o gwrs amlbroffesiwn, a rhoddir cyfle i gydweithio gydag aelodau o staff y GIG, yn ogystal â gweithio yn y gymuned mewn lleoliadau clinigol.

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gyda dros 70,000 o aelodau o staff yn gyflogedig ganddo. Os byddi di’n dymuno gweithio i’r sefydliad ar ôl graddio, fe fyddi’n rhan o dîm mawr o weithwyr proffesiynol sy’n cydweithio i ddarparu gofal iechyd mewn ysbytai ac yn y gymuned ar gyfer dros dair miliwn o drigolion Cymru. Hanfod gwaith y GIG yw gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau cymdeithasol a gwirfoddol, a cheir ystod eang o gyfleoedd i weithwyr iechyd yn y sector preifat, elusennau a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â mewn ysgolion, carchardai, gwleidyddiaeth, ymchwil, a’r byd chwaraeon. Bydd dilyn gyrfa fel gweithiwr iechyd yn her ddyddiol, yn cynnig boddhad, ac yn gyfle i fireinio sgiliau a thyfu mewn gwybodaeth.

Os wyt ti’n dymuno gyrfa foddhaol, heriol, ddiddorol ac amrywiol, edrycha ar y cyrsiau Iechyd sydd ar gael yng Nghymru, ac ymuna a thîm eang o weithwyr amryddawn a disglair.

Dysgu Mwy

Seicoleg

Mae gyrfaoedd proffesiynol o fewn y maes Seicoleg yn amrywiol a diddorol, a chyda’r sgiliau y byddi di’n eu datblygu yn ystod y radd, fe fyddi hefyd yn gymwys i weithio mewn llu o feysydd. Yn ystod y cwrs, fe gei elwa ar arbenigedd darlithwyr sy’n ymroddedig i gynnig y profiad gorau posibl o astudio Seicoleg, a chynigir cyfle i ti hefyd gyfarfod myfyrwyr eraill o bob cwr o’r byd.

Wrth astudio dy gwrs – neu ran ohono – drwy gyfrwng y Gymraeg, fe fyddi’n cymryd cam pellgyrhaeddol wrth baratoi ar gyfer gyrfa. Ceir tystiolaeth gadarn yng Nghymru o bwysigrwydd y gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog wrth ymgeisio am swyddi. Er enghraifft, mae cyflogwyr nodedig fel y Gwasanaeth Iechyd a’r cynghorau’n dymuno cyflogi seicolegwyr proffesiynol sy’n gallu cyfathrebu â chleientiaid, cleifion a chyd-weithwyr yn y Gymraeg. O ganlyniad, bydd y ffaith i ti ddilyn dy gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn gaffaeliad i dy CV.

Gall graddedigion Seicoleg weithio mewn nifer o wahanol feysydd, gan gynnwys: 

  • seicoleg addysgol a chlinigol 
  • chwaraeon 
  • meysydd galwedigaethol 
  • y maes academaidd 
  • iechyd 
  • cwnsela 
  • seicoleg iechyd. 

Mae dewisiadau gyrfaoedd poblogaidd eraill yn cynnwys ymchwil i’r farchnad, adnoddau dynol, addysgu a hysbysebu.

Dysgu Mwy

Gwaith Cymdeithasol

Mae bod yn weithiwr cymdeithasol yn gofyn am wybodaeth eang a sgiliau arbennig ar gyfer gweithio gydag unigolion mwyaf bregus y gymdeithas. Yn sgil hynny, mae angen hyfforddiant proffesiynol ar y rhai sy’n dymuno gweithio yn y maes.

Yn ystod rhaglenni gradd Gwaith Cymdeithasol, deuir ag elfennau academaidd a phroffesiynol ynghyd, lle paratoir myfyrwyr i ymgymryd â swyddi o fewn y gweithlu cymdeithasol. Yn ogystal ag ennill cymhwyster addysg cydnabyddedig, enillir trwydded hefyd i weithio’n broffesiynol.

O fewn y maes gofal, mae’n hollbwysig bod pob unigolyn sydd mewn cyfyngder yn cael y cyfle i gyfleu ei deimladau a’i brofiadau mwyaf personol drwy gyfrwng ei famiaith. Dim ond wrth sicrhau y rhoddir pob cyfle i’r unigolyn fynegi ei hun – a chael ei ddeall drwy gyfrwng yr iaith a ddewisa – y gellir trefnu’r gofal, y gefnogaeth a’r gwasanaeth priodol ar ei gyfer.

Mae nifer o raglenni gwaith cymdeithasol yn cynnig hyfforddiant trwy gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig. Cynigia rhai ohonynt rywfaint o elfennau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a chynigia’r rhaglen Gwaith Cymdeithasol ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor lwybr astudio cyfan gwbl Gymraeg.

Rhoddir cyfle i astudio amrywiaeth o fodiwlau, gan gynnwys gwerthoedd a moeseg, cyfraith gwaith cymdeithasol, gweithio gyda phlant a theuluoedd, a gweithio gydag oedolion â gwahanol anghenion. Mae cyfran sylweddol o’r rhaglenni’n cynnwys cyfleoedd i’r myfyrwyr fynd i’r afael ag ochr ymarferol gwaith cymdeithasol mewn amrywiol leoliadau, gan gynnwys adrannau gwasanaethau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a’r sector preifat.

Dysgu Mwy