Gyda phoblogaeth y byd yn tyfu law yn llaw â’r angen i sicrhau cyflenwad bwyd o’r ansawdd uchaf, mae’n bwysicach nag erioed fod amaethwyr yn derbyn addysg o’r radd flaenaf. Mae sicrhau bod llaeth a chig maethlon ar gael yn y dyfodol, gan gydymffurfio ar yr un pryd â gofynion cadwraeth a chynaliadwyedd, yn hollbwysig. Wrth ddilyn cwrs mewn Amaethyddiaeth, fe gei ddysgu nifer o egwyddorion pwysig megis rheoli glaswelltir a phriddoedd, cynhyrchu a rheoli cnydau, cynhyrchu anifeiliaid yn ogystal â chynaliadwyedd.
Os mai cwrs mwy galwedigaethol ei natur sy’n mynd â’th fryd, bydd gradd mewn Sylfaen Amaethyddiaeth neu Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad yn apelio atat. Dyma gyfle unigryw i ddatblygu sgiliau mewn hwsmonaeth a rheoli, ynghyd â chasglu profiad ymarferol a fydd yn braenaru’r ffordd at yrfa mewn amaeth, rheolaeth cefn gwlad a chadwraeth. Mae’r cyrsiau hyn hefyd yn boblogaidd ymysg y sawl sy’n dymuno ailhyfforddi neu newid trywydd eu gyrfaoedd presennol.
Mae’r sector bwyd a ffermio yn allweddol i economi Cymru o ran cyflogaeth a’r cyfraniad i dwristiaeth. Mae’r gadwyn gyflenwi’n cynrychioli tua 18% o’r gweithlu Cymreig. Yn ôl adroddiad Llywodraeth Cymru ar sgiliau Cymraeg, ystyriai 45% o gyflogwyr y sector bwyd-amaeth fod sgiliau Cymraeg yn bwysig i’w busnes, ac ystyriai traean bod sgiliau Cymraeg yn bwysig iawn. Mae’r un adroddiad yn dangos y defnyddir y Gymraeg yn y gweithle ym mron 50% o sefydliadau’r sector bwyd-amaeth. Yn naturiol felly, bydd astudio drwy’r Gymraeg yn dy arfogi gyda’r sgiliau ieithyddol sy’n hollbwysig i’r sector hwn.
Mae graddedigion Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad yn gweithio mewn nifer o wahanol feysydd, gan gynnwys y maes rheoli ffermydd, bwyd anifeiliaid, ymgynghori ym maes amaethyddol-amgylcheddol, darparu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, arolygiaeth iechyd a lles anifeiliaid fferm, cyflenwi nwyddau amaethyddol, ynghyd â chadwraeth a gwarchod cynefinoedd.