Darn bach o wybodaeth yw 'cwci' ar ffurf ffeil destun, sy'n cael ei hanfon gan weinydd gwe a'i storio ar gyfrifiadur y sawl sy'n ymweld â gwefan. Gall y gweinydd wedyn ei ddarllen yn ôl yn nes ymlaen pan fo angen. Mae defnyddio cwci yn ffordd gyfleus i'r cyfrifiadur gofio gwybodaeth benodol sy'n gysylltiedig â gwefan.
Mae'r gwefannau canlynol yn defnyddio Cwcis
Gwefan Blackboard y Porth - http://adnoddau.porth.ac.uk
Google Analytics – (Pob gwefan)
Mae’r Coleg yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ar y nifer o ymweliadau sydd i’w gwefannau. Mae Google Analytics yn defnyddio Cwcis sydd yn storio gwybodaeth am sut a ble mae’r ymwelydd wedi dod o hyd i’r safle. Mae Google Analytics hefyd yn nodi sawl ymweliad sydd wedi bod gan bob ymwelydd, a hefyd amser yr ymweliadau. Mae hefyd yn nodi am ba mor hir mae’r ymwelydd yn ymweld â’r safle. Mae casglu’r wybodaeth yma yn galluogi’r Coleg i wneud dadansoddiad o ddefnyddwyr y Coleg ac yn sgil hynny teilwra neu ddatblygu cynnwys ein gwefannau i’r defnyddwyr. Polisi Preifatrwydd Google
Pob gwefan
Mae gwefannau’r coleg yn defnyddio’r elfennau cymdeithasol isod ar ei gwefannau. Mae’r gwefannau yma yn defnyddio Cwcis er mwyn casglu gwybodaeth ar ddefnyddwyr ac ymwelwyr. Gallwch gael fwy o wybodaeth am hyn ar ei gwefannau nhw. Mae’r elfennau yma yn galluogi’r Coleg i ryngweithio gyda defnyddwyr ei gwefannau.
Am fwy o wybodaeth ar sut i reoli Cwcis a beth yw pwrpas Cwcis ewch i wefan Directgov.
Gallwch ddewis peidio â derbyn cwci a pharhau i ddefnyddio gwefannau’r Coleg, ond o wneud hynny byddwch yn colli elfen o weithredu nad yw'n hanfodol. Cewch y wybodaeth am sut i analluogi cwci o'r dogfennau cymorth ym meddalwedd eich porwr.