Star yr Atrium

Dyfarniadau 2013-14

Mae'r Coleg wedi dyfarnu 21 o Swyddi Academaidd newydd i wahanol brifysgolion ar draws Cymru i gychwyn erbyn mis Medi 2013, gan amrywio o swyddi ym maes cyfrifeg i feddygaeth.

Rhestrir y swyddi isod, a chaiff y wybodaeth am amserlen hysbysebu a manylion ymgeisio pob swydd eu diweddaru'n gyson. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'r dyfarniadau hyn anfonwch e-bost at y person cyswllt perthnasol yng Nghangen y Coleg, neu gysylltwch â Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd a Datblygu Staff y Coleg.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r dyfarniadau isod, cliciwch ar deitl y dyfarniad:

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol De Cymru

Prifysgol De Cymru a Met Caerdydd

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Manylion y Cynllun

Proses Ymgeisio 2013/14

Caiff swyddi sy'n deillio o'r Cynllun Staffio Academaidd eu lleoli yn y sefydliadau addysg uwch a chyllidir pob dyfarniad am hyd at bum mlynedd. Bydd deiliaid y swyddi hyn yn gyfrifol am addysgu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu priod feysydd pwnc. Er taw addysgu myfyrwyr fydd prif ddyletswydd y deiliaid, bydd disgwyl iddynt hefyd fod yn cyfrannu at fywyd deallusol prifysgolion Cymru drwy waith ymchwil, hwyluso cydweithio gydag adrannau a sefydliadau eraill, a hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'w pwnc a'u sefydliadau.

Ceir isod gopi o Gylchlythyr y Cynllun Staffio Academaidd ar gyfer 2013-14, a gylchredwyd i'r sefydliadau addysg uwch ym mis Medi 2012.

Cylchlythyr Cynllun Staffio Academaidd 2013-14
Cylchlythyr y Cynllun Staffio Academaidd, 2013-14 (Medi 2012)
Ffurflen Enwebu Cynllun Staffio Academaidd 2013-14
i'w chwblhau a'i dychwelyd erbyn 14 Mehefin 2013