Ar 1 Mawrth 2013, cyflwynodd y Coleg ei Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil newydd. Nod y Cynllun yw cyfrannu at nod strategol y Coleg o ‘hyrwyddo a datblygu ysgolheictod, ymchwil a chyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg’ a meithrin ‘ymchwilwyr o’r safon uchaf’. Anela'r Cynllun at ddenu'r graddedigion disgleiriaf a mwyaf brwdfrydig bob blwyddyn at ymchwil, a rhoi cyfle iddyn nhw fod yn rhan o gymuned ehangach o bobl sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg uwch.
Gwahoddir ceisiadau ar hyn o bryd gan unigolion a sefydliadau am yr Ysgoloriaethau. Dyfarniadau tair blynedd fydd y rhain a bydd hyd at ddeg Ysgoloriaeth yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn. Ceir gwybodaeth lawn am y broses ymgeisio yn y Cylchlythyr islaw. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 1 Mai 2013.
Mae ffurflen gais 2013/14 ar gael isod.