baner-grwp-dysgu-porth

Ein Gwaith

Swyddogaeth y Coleg

Prif nod y Coleg yw cynyddu, datblygu ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Mae’r Coleg yn adeiladu ar waith blaenorol y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg gan weithio gyda phrifysgolion i ddatblygu partneriaethau cydweithredol effeithiol, sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg, hyfforddi cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr i’r dyfodol, ynghyd â chyllido modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i’r sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Bydd y Coleg yn gosod yr iaith Gymraeg, y diwylliant Cymreig, ac ysgolheictod drwy gyfrwng y Gymraeg, yn y lle blaenaf bob amser wrth gynllunio, datblygu a gweithredu ei gynlluniau. Bydd y Coleg, drwy ei gytundebau â’r sefydliadau, yn sicrhau fod yr holl gyllid a ddyrennir i’r sefydliadau drwy’r Coleg ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, yn cael ei ddefnyddio at bwrpas, gan sicrhau fod y cyllid hwn yn ychwanegol at wariant presennol y sefydliadau o’u cyllidebau eu hunain.

Bydd y Coleg yn cydnabod pwysigrwydd targedau caled ar gyfer cynyddu niferoedd y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Coleg yn ymateb yn bositif i dargedau o’r fath a osodir gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor Cyllido a, lle bo angen, yn gosod ei dargedau ei hun ar gyfer meysydd academaidd a sefydliadau unigol. Fodd bynnag, bydd y Coleg hefyd yn gweithredu fel lladmerydd dros yr egwyddor o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddadlau na fydd modd i’r Gymraeg gael ei lle haeddiannol ym myd ysgolheictod ac addysg prifysgol tan i’r ddarpariaeth a’r dewis ar gyfer myfyrwyr gael ei ehangu’n sylweddol er mwyn cyfateb i’r patrymau sydd eisoes wedi eu sefydlu mewn sectorau addysgol eraill, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r dasg sydd yn wynebu’r Coleg yn un tymor hir ac nid yn y tymor byr y gwelir ffrwyth yr ymdrechion.