traeth

Cynlluniau Datblygu Pynciol

Craidd gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw datblygu darpariaeth yn ein prifysgolion trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers rhai blynyddoedd mae academyddion sy’n dysgu yn Gymraeg mewn amrywiol feysydd wedi dod at ei gilydd i gynllunio datblygiadau pynciol. Gan adeiladu ar drafodaethau'r paneli pynciol a chyfarfodydd unigol mewn rhai meysydd mae cyfres o Gynlluniau Datblygu Pynciol wedi'u creu a fydd yn sail i gynllunio a datblygu’r ddarpariaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Mewn rhai meysydd maent yn ffrwyth trafodaeth eang ymysg nifer o ddarparwyr cyfrwng Cymraeg yn ein sefydliadau tra bod eraill yn ddibynnol ar adran neu ysgol benodol i arwain y gwaith. Mae’r Cynlluniau Ysgoloriaethau Israddedig, Meistr ac Ymchwil, y Gronfa Datblygiadau Strategol a’r Cynllun Swyddi Academaidd yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a osodir yn y Cynlluniau Datblygu. Mae’r Cynlluniau yn nodi blaenoriaethau er mwyn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys darpariaeth gydweithredol ar draws un neu fwy o sefydliadau.

Maes o law bydd Grŵp Cynllunio Academaidd y Coleg yn ystyried yr amrywiol Gynlluniau Datblygu ac yn goruchwylio'r broses o'u diwygio a’u datblygu ymhellach fel bo’r angen.