Mae'r Cynllun Staffio Academaidd yn elfen hollbwysig o'r ymdrech i ddatblygu a chynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch. Bydd y cynllun yn darparu arian sylweddol i'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gyflogi staff academaidd ac i feithrin darlithwyr o’r radd flaenaf sy’n adnabyddus am flaengarwch a rhagoriaeth ym maes addysgu ac ymchwil.
Er mwyn gwireddu'r amcan hwnnw, bydd £1m ar gael bob blwyddyn am gyfnod o bum mlynedd yn y lle cyntaf ar gyfer cefnogi swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg. Rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn gyfrifol am gynnal dros 100 o swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg ymhen blwyddyn academaidd 2015-16. Rhestrir y dyfarniadau a wnaed hyd yma, a gwybodaeth am ddeiliaid y swyddi a greuwyd, fesul pwnc ar ochr chwith y dudalen.
Caiff y swyddi eu lleoli yn y sefydliadau addysg uwch mewn ystod eang iawn o ddisgyblaethau academaidd ar draws y gwyddorau, dyniaethau a'r celfyddydau, a chyllidir pob dyfarniad am hyd at bum mlynedd. Bydd deiliaid y swyddi hyn yn gyfrifol am addysgu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu priod feysydd pwnc. Er taw addysgu myfyrwyr fydd prif ddyletswydd y deiliaid, bydd disgwyl iddynt hefyd fod yn cyfrannu at fywyd deallusol prifysgolion Cymru drwy waith ymchwil, hwyluso cydweithio gydag adrannau a sefydliadau eraill, a hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'w pwnc a'u sefydliadau.