Darlith Blur - Focus ar pen bachgen

Rhaglen Datblygiad Staff

Gan gydweithio’n agos gydag arbenigwyr profiadol o brifysgolion ledled Cymru, mae’r Coleg yn cynnal gweithgareddau hyfforddiant misol ar gyfer darlithwyr, myfyrwyr ôl-raddedig a chymrodyr ôl-ddoethuriaeth. Mae'r holl hyfforddiant yn agored i bawb o unrhyw sefydliad addysg uwch, ac yn fodd i bobl rannu profiadau wrth iddynt feithrin arferion academaidd da a datblygu eu sgiliau addysgu.

Mae pob un o’r ystod eang o weithdai hyfforddi, sydd bellach yn rhan o Raglen Hyfforddiant a Datblygiad Staff y Coleg, wedi eu teilwra’n benodol i hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus academyddion sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil fydd rhai o weithdai'r Rhaglen, tra bod cyrsiau a gweithdai eraill yn cyfrannu at y Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU), sy'n galluogi unigolion i gymhwyso'n ffurfiol fel addysgwyr prifysgol.

Mae rhai o’r gweithdai hyfforddiant hefyd yn cael eu cynnal fel sesiynau sgiliau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig (sydd ddim wedi cofrestru i ddilyn y cwrs TUAAU), ac fel sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff academaidd mwy profiadol. Nid oes rhaid dilyn unrhyw gynllun cymhwyso penodol er mwyn gallu mynychu’r gweithdai unigol hyn. 

Ochr yn ochr â chynnal gweithgareddau hyfforddi o’r fath er mwyn hybu medrau ymchwilio, dysgu ac addysgu, mae’r Coleg hefyd yn cynnal cynhadledd ymchwil blynyddol er mwyn ysgogi’r genhedlaeth nesaf o academyddion i rwydweithio gyda’i gilydd, a chyflwyno papurau ymchwil – trwy gyfrwng y Gymraeg – gerbron eu cyfoedion.