Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio’n agos gyda phump o brifysgolion Cymru er mwyn darparu'r Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymhwyster yw hwn ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, cymrodyr ôl-ddoethuriaeth a darlithwyr newydd, sy'n cadarnhau fod ganddynt y medrau angenrheidiol i fod yn addysgwyr yn y sector addysg uwch.
Mae’r cynllun yn dechrau gyda chwrs cynefino preswyl, sy’n cael ei gynnal dros gyfnod o ddeuddydd, ac sy’n cynnwys cyfres o weithdai rhagarweiniol. Wedi hynny, bydd gofyn i’r hyfforddeion fynychu nifer penodedig o weithdai yn ystod y cymhwyster ac adeiladu portffolio yn adfyfyrio ar eu sgiliau addysgu.
Y prifysgolion sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Coleg er mwyn darparu’r cynllun hwn yw:
Darperir y TUAAU fel cymhwyster ym mhob un o’r prifysgolion hyn ar ffurf ychydig yn wahanol. Dylai’r sawl sy’n dymuno dilyn y TUAAU gysylltu gydag adran datblygu staff eu sefydliad lleol. Fodd bynnag, mae modd gwneud y TUAAU yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg trwy fynychu’r cyrsiau cynefino a’r gweithdai hyfforddi a ddarperir ar y cyd rhwng y Coleg a’r sefydliadau lleol.
Cynhelir Cwrs Cynefino preswyl nesaf y TUAAU yn Llandrindod ar 10-11 Ionawr 2013. Caiff sesiynau cyfrwng Cymraeg a Saesneg eu cynnal yn gyfochrog a mynychir y cwrs gan hyfforddeion o'r 5 SAU. Ceir copi o'r ffurflen gofrestru ar gyfer y sesiynau cyfrwng Cymraeg isod ac ychwanegir rhaglen cwrs manwl maes o law. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru fydd 9 Tachwedd.