banner-swigod-oren-porth

Llwyfan E-ddysgu Y Porth

Beth yw’r Porth?

Sefydlwyd llwyfan e-ddysgu cydweithredol y Porth yn 2009, er mwyn annog prifysgolion i rannu adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg â’i gilydd, a hwyluso’r broses o ddysgu modiwlau ar y cyd.

Mae’r llwyfan bellach yn cynnwys ystorfa helaeth o ddeunyddiau electronig o’r safon uchaf (gan gynnwys termiadur a nifer o fodiwlau cyflawn) sy’n ymwneud ag ystod eang o feysydd academaidd. Mae'r Porth yn ymgorffori’r technolegau e-ddysgu diweddaraf er mwyn cyfoethogi profiad y defnyddiwr a galluogi sefydliadau addysg uwch i gydweithio a chyflwyno modiwlau cydweithredol mewn modd effeithiol. Erbyn hyn, mae’r Porth wedi datblygu i fod yn ffocws holl bwysig ar gyfer astudio ac addysgu cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu dyfodiad y Porth yn gam allweddol tuag at wireddu gweledigaeth y Coleg o greu cymuned academaidd Gymraeg. Yn ernes o hynny, mae'r Porth hefyd yn cynnwys cofrestr o’r holl ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg sy’n gweithio ym mhrifysgolion Cymru ar hyn o bryd.

Y Porth
Llwyfan E-Ddysgu Y Porth