baner-cyfrifiadur-porth

Cronfa Datblygiadau Strategol a Phrosiectau

Nod Cronfa Datblygiadau Strategol a Phrosiectau’r Coleg yw cefnogi a symbylu datblygiadau strategol a fydd yn cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r niferoedd sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Gronfa wedi ei sefydlu er mwyn darparu cymorth ariannol i brifysgolion wireddu’r nodau a’r blaenoriaethau strategol sydd wedi eu hamlinellu yng Nghynllun Academaidd y Coleg ac yn y cynlluniau datblygu pynciol.

Cyllidwyd nifer fawr o brosiectau mewn ystod eang o feysydd drwy gronfeydd datblygu'r Coleg a’r Ganolfan Addysg Uwch (rhagflaenydd y Coleg), ac mae canlyniadau’r prosiectau hynny i’w gweld fesul pwnc, drwy ddilyn y ddolen ar y chwith.

Cyllidwyd hefyd nifer o brosiectau llai trwy’r Gronfa Grantiau Bach. Gellir gweld rhestrau o’r grantiau bach a ddyfarnwyd hyd yma drwy ddilyn y ddolen ar y chwith.