Prosiectau Addysg a Hyfforddiant

Cliciwch ar y crynodebau isod er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r prosiectau unigol.
Creadigrywdd yn yr Ysgol Gynradd - llun plant rhedeg
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
£20,209.12
ADD11/01

Derbyniodd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant nawdd i ddatblygu cymhwyster newydd –Gradd Sylfaen yn y Cyfnod Sylfaen.

Sgriptio ar y cyd
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
£18010.48
ADD11/02

Derbyniodd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant nawdd i ddatblygu llwybr newydd i’r radd MA Addysg Blynyddoedd Cynnar.

Cyfrol Deall Hyfforddiant Chwaraeon
Prifysgol Aberystwyth
£6246.75
ADD11/03

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i ddatblygu modiwlau craidd ym maes Astudiaethau Plentyndod, drwy’r Gymraeg, a’u cynnig ar y Porth.

cyfrifiaduron
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
£10,525
ADD10/01
Derbyniodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nawdd i ddarparu modiwl yn ymwneud â dulliau ymchwil. Bydd modd i addysgwyr Cymraeg eu hiaith astudio’r modiwl hwn fel cam cyntaf tuag at gymhwyster ôl-raddedig.
Gloywi Iaith Rhan 2 - llun merch yn gofyn cwestiwn
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
ADD10/02
£21,266
Derbyniodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nawdd i adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd fel rhan o’r prosiect ‘Gloywi Iaith’ (ADD09/04) a gyllidwyd yn 2009.
Rheolaeth Ddosbarth
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd
£13,500
ADD10/03
Derbyniodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd nawdd i greu DVD a Chryno Ddisg Cynorthwyol, er mwyn gallu arddangos enghreifftiau o wersi cyfrwng Cymraeg mewn amryw o ysgolion uwchradd lleol.
Coleg Prifysgol Y Drindod
£14,600
ADD09/01
Derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod nawdd i gynhyrchu llawlyfr sydd yn cyflwyno prif elfennau’r Cyfnod Sylfaen (3-7 oed) i fyfyrwyr ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar.
darlith
Prifysgol Bangor
£20,049
ADD09/03

Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i gefnogi datblygu cwrs meistr newydd mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol.

Llun Athro yn dysgu myfyrwyr
Coleg Prifysgol Y Drindod
£4,999
ADD09/04
Derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod nawdd i ddatblygu adnoddau ar gyfer addysgu sesiynau gloywi iaith ac i ddarparu arweiniad ar addysgu’r iaith Gymraeg yn y sector addysg gynradd.
Coleg Prifysgol Y Drindod
£18,000
ADD09/05
Derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod nawdd i gynhyrchu deunyddiau dysgu ac addysgu yn ymwneud ag addysg yn yr awyr agored.
Llun Cyff Merch mewn Llyfrgell
Coleg Prifysgol Y Drindod
£11,500
ADD09/06
Derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod nawdd i gynhyrchu llawlyfr safonol ar astudio plant, yn cynnwys arweiniad ar fframweithiau damcaniaethol, moesegol ac ymarferol.
Creadigrywdd yn yr Ysgol Gynradd - llun plant rhedeg
Coleg Prifysgol Y Drindod
£12,150
ADD09/07
Derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod nawdd i gynhyrchu llawlyfr ar-lein yn cyflwyno a thrafod prif elfennau creadigrwydd yn yr ysgol gynradd ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
llyfrgell2
Prifysgol Casnewydd
£7,500
ADD08/01

Derbyniodd Prifysgol Cymru Casnewydd nawdd i ddatblygu modiwl newydd cyfrwng Cymraeg mewn ‘Anawsterau Dysgu Penodol – Dyslecsia’.

bwrdd-du
Coleg Prifysgol Y Drindod
£31,000
ADD08/02

Derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod nawdd i adolygu a diweddaru ‘Cynllun y Colegau’ er mwyn darparu adnodd hylaw at ddefnydd darlithwyr a hyfforddeion.

stiwdio
Prifysgol Bangor
£7,020
ADD08/03

Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu cyfres o ffilmiau byrion er mwyn ehangu profiad myfyrwyr sy’n astudio ar raglenni Astudiaethau Plentyndod.

Magu Plant Iach
Prifysgol Bangor
£3,250
ADD08/05
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i lunio modiwl newydd ar y thema ‘Magu Plant Iach’. Mae’r modiwl hwn bellach wedi cael ei ddilysu, ac yn rhan o raglenni gradd Astudiaethau Plentyndod.
myfyrwyr
Prifysgol Glyndŵr
£27,000
ADD08/06
Derbyniodd Prifysgol Glyndŵr nawdd i gyfieithu adnoddau dysgu ar gyfer modiwlau ym maes Gwaith Ieuenctid a Chymuned. Mae hwn yn dilyn prosiect ariannwyd yn 2006 i gyfieithu modiwlau yn y maes.