Derbyniodd Prifysgol Morgannwg nawdd i ddatblygu credydau cyfrwng Cymraeg ym maes Heddlua fydd yn sicrhau cyfleoedd ar draws pob blwyddyn astudio. Bydd y prosiect yn dod â’r ddarpariaeth yn yr adran yn agos at y trothwy o 40 credyd y flwyddyn ar draws tair blynedd astudio.
Un o amcanion allweddol y prosiect yw i ddarparu rhagolygon cyflogaeth gwych i’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno gweithio yng Nghymru wedi iddynt raddio. Bydd pecyn adnoddau ar gael ar y Porth, gyda’r prif ffocws ar gefnogi astudiaethau myfyrwyr Gwyddorau’r Heddlu, ond bydd yr adnoddau hefyd o ddefnydd i fyfyrwyr mewn maesydd astudio eraill megis troseddeg, cymdeithaseg a gwasanaethau cyhoeddus. Rhagwelir y bydd yr adnoddau yn cynnwys erthyglau, podlediadau a/neu ddarlithoedd gan arbenigwyr yn y maes, a darlithoedd pwerbwynt.
| Tîm y Prosiect | |
|---|---|
| Rheolydd y Prosiect: | Brian Blakemore |
| Comisiynydd y Prosiect: | Dr Dafydd Trystan |
| Aelodau'r Bwrdd Prosiect: | Catrin Hughes (Prifysgol Morgannwg), James Gravelle (Prifysgol Morgannwg). |
| Amserlen: | Daw’rprosiect i ben ym Mehefin 2014. |