Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i baratoi cyfres o ffilmiau byrion am dechnegau labordy, er mwyn arddangos sut i fynd ati i gwblhau arbrofion mewn modd trefnus a llwyddiannus, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymarferiadau Biofeddygol a Molecwlar ac ymarferiadau trwy’r microsgop.
Mae'r deunydd wedi cael ei baratoi mewn dau faes: Ymarferiadau Biofeddygol a Molecwlar ac Ymarferiadau trwy’r microsgop - maes eang (a newydd) ar draws nifer o gwricwla, modylau a defnydd recriwtio.
Mae 7 o becynnau fideo wedi cael eu creu, ac mae modd eu defnyddio ar draws lefelau dysgu 4 - 7 ar hyd ystod eang o adrannau biolegol Cymru.
Mae'r fideos gorffenedig ar gael ar y Porth.
| Tîm y Prosiect | |
|---|---|
| Rheolydd y Prosiect: | Deri Tomos |
| Comisiynydd y Prosiect: | Dr Dafydd Trystan |
| Aelodau'r Bwrdd Prosiect: | Dr Hefin Jones – Prifysgol Caerdydd. (Cefnogaeth: Ms Heledd Dafydd, Mrs Bethan Wyn Jones, Mrs Val Tranmer, Y Bnr Merfyn Williams, Dr Nia Whiteley, Mrs Louise Thurlow) |
| Amserlen: | Mae'r prosiect hwn wedi ei gwblhau a'r fideos yn fyw ar Y Porth. |