Derbyniodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd nawdd i greu llawlyfr ar-lein a fydd yn gymorth i fyfyrwyr sydd yn astudio materion cymdeithasol a diwylliannol chwaraeon.
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i gynnal prosiect ymchwil sy’n anelu i ddeall agweddau darpar fyfyrwyr tuag at astudio cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Ynghyd ag ymchwilio i farn ac agweddau darpar fyfyrwyr, mae'r tîm ymchwil wedi cynnal grwpiau ffocws gyda myfyrwyr presennol er mwyn datblygu dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr, a’r math o gefnogaeth arbenigol sydd angen arnynt wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Derbyniodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd nawdd i greu fersiwn Gymraeg o’r llyfr Understanding Sports Coaching (sef cyfrol Deall Hyfforddiant Chwaraeon). Bydd y gyfrol hon yn cynnig dilyniant i’r gyfrol Cyflwyniad i Hyfforddiant Chwaraeon, a gyhoeddwyd gyda nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2009.
Derbyniodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd nawdd i gynhyrchu fersiwn Gymraeg o’r llawlyfr An Introduction to Sports Coaching (sef Cyflwyniad i Hyfforddi Chwaraeon).